British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 16 Mawrth 2009, 16:03 GMT
Gwyl y Gelli'n achub Aberhonddu

Art Theman
Roedd Art Theman yn un o brif atyniadau jazz Aberhonddu y llynedd

Mae'r swyddogion sy'n gyfrifol am drefnu un o wyliau llenyddol mwyaf Ewrop wedi cael eu dewis i drefnu Gŵyl Jazz Aberhonddu.

Fe fydd Gŵyl y Gelli yn trefnu'r ŵyl jazz flynyddol o 2010 ymlaen, ar l i'r cwmni oedd yn gyfrifol amdani fynd i'r wal ar l methu gwerthu tocynnau oherwydd y tywydd garw.

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru, oedd yn gyfrifol am sicrhau dyfodol yr ŵyl, fod y Gelli wedi cynnig "gweledigaeth gyffrous... ar gyfer y dyfodol".

Dywedodd Peter Florence ar ran Gŵyl y Gelli ei fod e "wrth ei fod" i dderbyn yr her.

Roedd disgwyl i Ŵyl Jazz Aberhonddu gael ei chanslo eleni, ond fis diwethaf, penderfynodd grŵp o bobl i drefnu digwyddiad ym mis Awst oherwydd y gost o golli'r ŵyl am flwyddyn gyfan yn 2009.

Mae'n fwriad gan Ŵyl y Gelli i drefnu digwyddiadau jazz eraill yn Aberhonddu eleni, ond nid yw'n glir a oes cysylltiad rhwng y digwyddiadau.

Rydyn ni wrth ein bodd i allu derbyn yr her, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddathlu'r cyfoeth anhygoel o dalent jazz lleol a rhyngwladol yng Nghymru
Peter Florence, Gŵyl y Gelli

Dywedodd Mr Florence: "Fe fyddwn ni'n trefnu digwyddiadau jazz yn Aberhonddu yn yr haf eleni, fydd yn arwain at ail-lansio'r ŵyl ym mis Awst 2010.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor y Celfyddydau, Dai Smith: "Rydyn ni'n dadlau o hyd bod Aberhonddu'n haeddu gŵyl o safon uchel sy'n gallu bod yn falch o fod yn un o brif ddigwyddiadau diwylliannol Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau, Nick Capaldi fod cynnal ambell ddigwyddiad jazz eleni yn "wir fonws ychwanegol".

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n ymwybodol o gyfraniad yr ŵyl i'r economi leol yn Aberhonddu, ac rydyn ni'n ymwybodol o'r amheuon gafodd eu crybwyll am gynnal gŵyl eleni a'r pryderon hynny.

"Mae Gŵyl y Gelli wedi ein darbwyllo bod rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau'n bosib, ac rydyn ni'n hapus i gefnogi eu penderfyniad."

Roedd yr ŵyl jazz wedi dathlu chwarter canrif yn 2008, ond roedd 'na drafferthion ariannol yn 2009 oherwydd y tywydd garw a'r galw isel am docynnau.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Gwyl Jazz Aberhonddu am ddigwydd
18 Chwef 09 |  Newyddion
BBC yn achub gwyl jazz
12 Chwef 01 |  Newyddion
Gwyl jazz: Gobaith o'r newydd
18 Rhag 08 |  Newyddion
Gwyl jazz yn nwylo'r derbynwyr
17 Rhag 08 |  Newyddion
Gwyl jazz: Dau yn y ras
03 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific