British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 15 Mawrth 2009, 14:03 GMT
Cwis Mawrth 15, 2009

Yr Wythnos
YR WYTHNOS. 12.30pm bob pnawn Sul ar S4C.

Yr Wythnos yw rhaglen BBC Cymru ar gyfer S4C sy'n edrych yn ôl ar storïau newyddion y saith diwrnod diwethaf.

Ar ôl darllen Yr Wythnos, beth am roi cynnig ar y cwis?

Pa ffatri yng Nghymru sy'wedi gorffen gwaith cynhyrchu yr wythnos hon?
A: Hoover
B: Ford
C: Corus
Mae Llywodraeth Prydain am ostwng cyflymder gyrru ar y rhan fwyaf o ffyrdd gwledig. Pa gyflymder ma' nhw am weld ?
A: 70
B: 60
C: 50
Mae'r eisteddfod ym Meirionnydd eleni yn mynd i gael arian ychwanegol gan Lywodraeth y Cynulliad. Ond mae pobl o'r ardal lle bydd yr eisteddfod yn cael ei chynnal y flwyddyn nesa yn anhapus na fyddan nhw yn derbyn yr un arian.Ble fydd Eisteddfod 2010 ?
A: Caerdydd
B: Blaenau Gwent
C: Gwyr
Mae peiriant newydd wedi ei ddyfeisio gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe i helpu pobl sydd â phroblemau gyda beth?
A: Ysgyfaint
B: Calon
C: Arennau
Fe enillodd Cymru y gêm rygbi yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain ddoe. Pwy fydd yn rhaid iddyn nhw guro i ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad yr wythnos nesa?
A: Lloegr
B: Ffrainc
C: Iwerddon

 Gwasgwch y botwm a chewch weld sut hwyl gawsoch chi



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific