Dywedodd yr hedldu eu bod yn awyddus i glywed gan dystion
Mae dros 30 o gerrig beddi mewn eglwys wedi cael eu difrodi gan fandaliaid.
Mae rhai o'r cerrig yn Eglwys Teilo Sant yn Llandrillo-yn-Rhos yn dyddio'n ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Disgrifiodd Heddlu Gogledd Cymru yr ymosodiad fel "hwliganiaeth ddifeddwl".
Maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.
Dywedodd y cynghorydd sir, Phil Edwards, bod 'na broblem wedi bod yn y gorffennol am blant yn yfed alcohol yn y fynwent ond bod hyn wedi dod i ben.
Yn y fynwent y mae bedd Harold Lowe, swyddog oedd ar fwrdd y Titanic wnaeth achub pedwar teithwyr yn ei gwch achub yn 1912.
Chafodd ei fedd ddim ei ddifrodi.
Ond mae carreg fedd Adela Wylie, a fu farw yn 1914, wedi cael ei wthio ac mae'r groes wedi malu.
Felly hefyd y groes ar fedd Ralph Ogden a fu farw yn 1918.
"Mae'n troi'ch stumog," meddai'r cynghorydd.
"Mae'n ofnadwy gweld y cerrig yn cael eu difrodi.
"Os mai plant oedd wedi gwneud hyn, maen amlwg eu bod yn blant hŷn gan fod y cerrig yn fawr a thrwm."
|