Mae'r peiriant yn dangos lluniau clir i'r claf a'r meddygon
|
Fe fydd cyfarpar electronig newydd sy'n gallu tynnu lluniau fideo'n ddwfn tu mewn i yddfau fod o gymorth i gleifion canser mewn ysbyty yn Abertawe.
Mae'r cyfarpar yn gallu helpu cleifion canser y gwddw a'r pen ar draws de Cymru.
Mae'r uned yn Ysbyty Singleton.
Mae tua 150 o achosion o'r math yma o ganser yn ne Cymru bob blwyddyn, tair gwaith yn fwy na'r cyfartaledd ar draws y DU.
Her Canser Castell-nedd Port Talbot wnaeth dalu am y cyfarpar £60,000.
Dywedodd yr arbenigwr Martin Rolles o'r ysbyty bod y cyfarpar yn gwneud gwahaniaeth eisoes i gleifion.
Roedd yn ddiolchgar iawn i'r elusen am eu rhodd.
Gall y clefyd effeithio ar unrhyw ran o'r wyneb, y geg, sinws a'r llwnc.
Mae'n gallu cael effaith ar leferydd a llyncu.
'Anawsterau'
"Dyma rodd hael iawn ac fe fydd yn caniatáu meddygon a therapyddion llefaredd fonitro'r cleifion yn well a'u cynorthwyo i wella," meddai Mr Rolles.
"Mae'n hanfodol i ganfod unrhyw arwydd o ganser yn dychwelyd ac i adnabod y driniaeth gywir."
Dywedodd Ruth Best, therapydd iaith a llefarydd Macmillan, bod nifer o gleifion yn wynebu anawsterau i lyncu ac i siarad ar ôl cael triniaeth.
"Mae'r cyfarpar yn helpu ni i asesu'r claf ac yn dangos y cynnydd mae'r claf yn ei wneud.
"Mae cael lluniau fideo mor glir yn helpu'r claf i weld yr hyn sy'n digwydd tu mewn."
Dywedodd Ms Best bod cleifion yn cael anogaeth o'r cyfarpar.
Un sy'n defnyddio'r cyfarpar i ailddysgu llyncu ar ôl cael triniaeth ydi Joyce Boyle o Faglan.
"Mae'r cyfarpar yn wych," meddai
"Dwi'n benderfynol o ddysgu llyncu er mwyn cael paned o de," ychwanegodd Ms Boyle sy'n derbyn ei maeth o diwb ar hyn o bryd.
|