British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 14 Mawrth 2009, 10:11 GMT
Agor llyfrgell newydd yn y ddinas

Llyfrgell Caerdydd
Cynllun agored sydd i'r llyfrgell

Fe fydd trigolion Caerdydd yn cael y cyfle cyntaf i ymweld â llyfrgell newydd y ddinas.

Cafodd adeilad hen lyfrgell y ddinas ei ddymchwel yn 2006 fel rhan o ddatblygiad i greu canolfan siopau newydd yng nghanol Caerdydd.

Mae'r llyfrau a'r archifau wedi bod ers hynny mewn adeilad dros dro.

Dydd Sadwrn y bydd diwrnod agoriadol y llyfrgell newydd yn Yr Ais.

Mae'n adeilad trawiadol y tu mewn a'r tu allan.

Mae 'na ddodrefn diddorol a piano yn y llyfrgell a hyd yn oed gwair yn tyfu ar do'r llyfrgell.

Yn ôl y cyngor sir, mae'r adeilad chwe llawr yn rhoi delwedd gwahanol iawn i'r un traddodiadol o lyfrgelloedd.

Eisoes mae'r adeilad wedi ennill gwobrau am y cynllun eco-gyfeillgar.

Mae'r to yn cadw'r adeilad yn gynnes yn y gaeaf, ond yn atal gwres rhag codi yn yr haf.

Mae o hefyd yn cael gwared â nwy carbon deuocsid a nwyon eraill o ganol y ddinas, ac mae dau farcud yn byw yno i atal adar bach eraill rhag bwyta'r hadau gwair.

Yn ogystal â 90,000 o lyfrau fe fydd 'na 90 o gyfrirfiaduron y gall y cyhoedd eu defnyddio.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Howells, aelod o Gyngor Caerdydd gyda chyfrifoldeb am ddiwylliant a hamdden, ei fod wrth ei fodd gyda'r llyfrgell newydd.

"Mae hi wedi cymryd sawl blwyddyn er mwyn cyrraedd y diwrnod yma, ond dwi'n meddwl fod beth sydd ganddom ni nawr yn unigryw yn y DU," meddai.

"Dydi o ddim yn unig yn le i godi llyfr a gadael.

"Mae'n rhywle lle yr ydym yn gobeithio y gall pobl dreulio amser yn darllen, astudio ac ymlacio."

Fe fydd Canolfan Siopau Dewi Sant 2 yn agor yn yr hydref.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Golwg gynta ar lyfrgell werdd
07 Maw 09 |  Newyddion
Creaduriad annisgwyl ar ben to
05 Rhag 08 |  Newyddion
Cau llyfrgell i symud llyfrau
08 Chwef 09 |  Newyddion
Llyfrau prin: Cytuno i drafod
09 Hyd 08 |  Newyddion
Llyfrau: Beirniadaeth o dramor
29 Medi 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific