British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 13 Mawrth 2009, 06:38 GMT
Galw am ganolfan iechyd i filwyr

Milwyr o'r Gwarchodlu Cymreig yn ymarfer yn Afghanistan
Milwyr o'r Gwarchodlu Cymreig yn ymarfer yn Afghanistan

Mae aelodau capeli annibynnol yn galw am ganolfannau milwrol yng Nghymru a fydd yn gallu rhoi triniaeth a gofalu am filwyr o Gymru sydd wedi cael eu hanafu yn Irac neu Afghanistan.

Dywedodd aelodau capeli yng Nghaerfyrddin eu bod eisiau i Lywodraeth y Cynulliad a'r Weinyddiaeth Amddiffyn ystyried agor canolfannau yn Wrecsam a Llandeilo.

Mae teithio yn bellach yn "fwrn ychwanegol" ar y teuluoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn na fyddai o fudd i'r milwyr dderbyn triniaeth mewn ysbytai heb yr arbenigedd angenrheidiol.

Fe wnaeth cynrychiolwyr 3,000 o aelodau'r capeli annibynnol yng ngorllewin Caerfyrddin bleidleisio yn unfrydol i fwrw ymlaen gyda'r cynnig i sefydlu'r ddwy ganolfan.

Fe wnaethon nhw awgrymu un uned yn Wrecsam lle mae pencadlys catrawd y Cymry Brenhinol, ac un arall yn hen blasty Gelli Aur ger Llandeilo ( sydd ar werth ), a fyddai'n gyfleus i Ysbyty Glangwili ac uned losgiadau Treforys.

'Dyletswydd'

Mae'r cynnig yn dweud eu bod "yn gresynu nad oes unedau meddygol yng Nghymru i drin milwyr" gafodd eu hannafu yn yn Irac ac Afghanistan.

Dywed, er bod tair catrawd (Y Cymry Brenhinol, Y Gwarchodlu Cymreig a'r Caflari Cymreig) yn recriwtio yn drwm yng Nghymru, nid oes un o'r 33 o unedau meddygol milwrol sy'n eiddo i'r weinyddiaeth amddiffyn ym Mhrydain yng Nghymru.

Mae'r aelodau yn ychwanegu eu bod yn credu bod gan y weinyddiaeth amddiffyn yn "ddyletswydd" i gynnig triniaeth i deuluoedd yng Nghymru.

Mae'r aelodau yn dweud y byddai'r unedau yn "ysgafnhau'r baich" ar y gwasanaeth iechyd ac fe fydd yn creu nifer sylweddol o swyddi amrywiol yn y dirwasgiad.

Fe fydd y cynnig yn cael ei basio ymlaen i'r Undeb cenedlaethol ar gyfer ei ystyried yn eu cyfarfod blynyddol yn ddiweddarach eleni.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad bod y gweinidog iechyd yn pryderu bod eisiau sicrhau bod milwyr sy'n dychwelyd yn cael y gofal gorau ac mae hi'n arolygu'r sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn bod y milwyr yn haeddu'r gofal gorau.

"Mae'r ganolfan yn Ysbyty Selly Oak, Birmingham, lle mae'r personél yn cael triniaeth ar ôl dychwelyd adre yn ganolfan arbennig ac yn cynnig triniaeth benodol ar gyfer y math o anafiadau y byddai gan filwyr.

"Mae nifer y cleifion yn fach diolch byth, a fyddai o ddim o les iddyn nhw fod mewn ysbytai lle nad ydi'r arbenigedd, sydd ar gael yn Selly Oak, yn bodoli."

Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific