British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Mawrth 2009, 11:09 GMT
Angen ysgol Gymraeg arall

Cyngor Wrecsam
60% o rieni am gael addysg Gymraeg i'w plant
Mae Cyngor Wrecsam yn ystyried ysgol Gymraeg newydd am nad yw'r ddarpariaeth bresennol yn ateb y galw ymysg rieni.

Fe gynhaliodd yr awdurdod arolwg ymysg rhieni plant ieuengach nag oed ysgol yn 2007.

Roedd y canlyniadau yn awgrymu fod llawer ohonyn nhw yn dymuno addysg Gymraeg i'w plant - mwy na'r ddarpariaeth ar hyn o bryd.

Penderfynnodd bwrdd y cyngor ddydd Mawrth ymgynghori ymhellach gyda rhieni a'r gymuned yn ehangach, ond mae sefydlu ysgol newydd yn ardal Gwersyllt yn cael ei ystyried.

Gwersyllt yn addas

Dywedodd y cynghorydd Arfon Jones o Gwersyllt:

"Roedd dros 60% o rhieni plant o dan dair blwydd oed yn mynegi diddordeb mewn cael addysg Gymraeg i'w plant.

"Yr ardaloedd gyda'r galw mwyaf oedd Gwersyllt, Summerhill a LLai. Yn wahanol i Rhos, Coedpoeth, Cefn Mawr a thre Wrecsam, does dim ysgol gynradd gymraeg yn lleol, ac mae'r grŵp gweithredu wedi argymell y byddai Gwersyllt yn ardal addas ar gyfer ysgol newydd."

Ar hyn o bryd, mae adeilad ysgol Dodd's Lane yn Gwersyllt yn cael ei ddefnyddio fel uned gyfeirio yn unig, ac fe allai fod yn gartref i ysgol Gymraeg.

Ystafelloedd symudol

Ychanegodd Mr Jones: "Mae dewis arall, sef sefydlu ffrwd Gymraeg yn ysgolion presennol Gwersyllt, ond mae digon o alw i gyfiawnhau ysgol newydd.

"Ar hyn o bryd, mae llawer o ddisgyblion Gwersyllt yn teithio i ysgol Plas Coch yn Rhosddu lle mae 90 o blant yn ceisio am le mewn dosbarth derbyn o 30.

"Er mwyn ateb y galw, mae nhw wedi gorfod gosod dwy stafell ddosbarth symudol.

"Mae gan y cyngor gyfrifoldeb i gwrdd a gofynion rhieni ac ymestyn y ddarpariaeth addysg Gymraeg. Mae'n bwysig felly fod yr ymgynghoriad yn adlewyrchu dymuniadau pobl gyffredin."

Dylai unrhywun sydd am gyfrannu i'r ymgynghoriad ysgrifennu at Brif Swyddog Addysg a Chyrhaeddiad, Gwasanaethau Plant a Phobol Ifanc, 16 Lord Street, Wrecsam, LL11 1LG.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Ad-drefnu addysg: 'Cam ymlaen'
11 Maw 09 |  Newyddion
Canolfan chwarae unigryw yn cau?
08 Maw 09 |  Newyddion
Sir yn trafod dyfodol ysgolion
24 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific