British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Mawrth 2009, 12:01 GMT
Cyfle i denantiaid brynu drwy rhentu

Fflatiau yng Nghaerdydd
Fe fydd opsiwn gan denantiaid yn y fflatiau yng Nghaerdydd i brynu ar l 18 mis

Mae datblygwr wedi dweud ei fod e'n cynnig cymorth i denantiaid yn ystod y wasgfa ariannol, drwy dderbyn 18 mis o rent gan denantiaid newydd fel blaendal.

Mae Hekmat Kaveh, sy'n gweithio yng Nghaerwrangon, wedi prynu 90 o fflatiau un ystafell mewn dwy ardal yng Nghaerdydd, ac mae'n bwriadu gosod y rhain ar rent am 500-525 y mis.

Dywedodd fod gan denantiaid yr opsiwn o brynu'r fflatiau newydd am 99,950.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Benthycwyr Morgeisi: "Mae'r meini prawf ar gyfer rhoi benthyg wedi cael eu tynhau ar adeiladau sydd newydd eu codi."

Cafodd Mr Kaveh, sy'n 51 oed, ei eni yn Iran, ac fe dderbyniodd hyfforddiant fel pensaer ym Malvern.

Dywedodd Mr Kaveh ei fod e'n credu y bydd y gostyngiad yng ngwerth tai yn cael ei ddatrys yn fuan iawn.

Ychwanegodd ei fod e wedi sylwi gwelliant mewn gwerthiant a chyfradd rhentu ymhlith ei bortffolio o fwy na 100 o adeiladau yng Nghanolbarth Lloegr.

Yr hyn oedd wedi ei alluogi i gynnig opsiwnt rhentu-i-brynu oedd gostyngiad gan Barratt Homes yng Nghaerdydd ar l iddo brynu nifer o adeiladau yn Heol Dumballs a Sgwr Tŷ Glas yn Llanishen

O ystyried yr hinsawdd economaidd ar hyn o bryd, bydden ni'n cefnogi unrhyw fesur fyddai'n cynnig y cyfle i chwistrellu bywyd i'r farchnad dai
Vikki Hiscocks, Institiwt Siarteredig Tai Cymru

Dywedodd: "Rydyn ni'n gosod y pris gwerthu nawr. Rydyn ni'n sicr yn credu y bydd pris fflatiau'n uwch ymhen 18 mis nag yr ydyn nhw ar hyn o bryd.

"Yn amlwg, y sefyllfa waethaf i'r tenant ymhen 18 mis yw eu bod nhw wedi rhentu fflat yn unig.

"O'n safbwynt ni, os ydyn ni'n eu gwerthu nhw, fe fyddwn ni wedi gwneud elw ymhen y 18 mis, oherwydd ein grym prynu gan ein bod ni wedi prynu nifer ar yr un tro.

"Os nad yw tenantiaid yn prynu, y peth pwysicaf yw bod tenantiaid yn gofalu am y lle i ni.

Cafodd y cytundeb i brynu'r 90 fflat ei drefnu gan Asiantaeth Thomas a Rose.

Dywedodd Sean McMahon ar ran y cwmni: "Gyda'r pwysau sydd ar fanciau nawr i ddechrau rhoi benthyg, rydyn ni'n gobeithio ymhen 18 mis y bydd pobl yn dechrau sicrhau nawdd.

"Felly, byddai'n ad-daliad o'u harian mewn gwirionedd."

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Marchnad dai 'i waethygu'
16 Chwef 04 |  Newyddion
'Angen newid marchnad dai'
07 Ion 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific