British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 11 Mawrth 2009, 12:36 GMT
Cytuno i adnewyddu ysbyty

Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Adeiladwyd yr ysbyty yn 1884

Gallai gwaith ar adnewyddu cyfleusterau mewn ysbyty ddechrau yn y gwanwyn, yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru Edwina Hart.

Mae dyfodol ansicr wedi bod i Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn nwyrain y brifddinas ers i'r ysbyty gau fel ysbyty cyffredinol dosbarth ddegawd yn ôl.

Ond nawr mae Mrs Hart yn dweud ei bod am ddatblygu cyfleusterau gofal iechyd ar y safle gan gynnwys y posibilrwydd o wasanaeth cleifion preswyl.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol dros y Democratiaid Rhyddfrydol Jenny Randerson ei fod yn "ddiwrnod ardderchog".

Roedd Mrs Hart yn ymateb i argymhellion o arolwg a gomisiynwyd ganddi llynedd i edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd yn ne a dwyrain Caerdydd.

Ysbyty leol nodedig

Daeth adroddiad Dr Stephen Hunter i'r casgliad y gallai Ysbyty Brenhinol Caerdydd "gael ei datblygu fel ysbyty leol nodedig ar gyfer trigolion de a dwyrain Caerdydd a thu hwnt".

Caeodd yr ysbyty fel ysbyty cyffredinol dosbarth yn 1999, fe'i hagorwyd yn 1884 a chanddi statws rhestredig Gradd II.

Wedi deng mlynedd mae'n rhyddhad i gleifion a thrigolion Caerdydd a'r cyffiniau bod rhywbeth am ddigwydd i safle Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Jenny Randerson AC

Brwydrodd ymgyrchwyr yn erbyn cynlluniau i gau gweddill y cyfleusterau yn 2002.

Rhoddwyd y gorau i'r cynlluniau hynny ond ansicr fu dyfodol y safle ers hynny.

Gwella amserau aros

Byddai datblygu'r ysbyty yn lleihau prysurdeb Ysbyty Athrofaol Cymru gan wella amserau aros yn ôl yr adroddiad.

Gan ymateb i'r adroddiad dywedodd Mrs Hart : "Mae Dr Hunter yn argymell datblygu gwasanaethau fydd yn cynnwys gofal cychwynnol, gofal heb ei drefnu, iechyd meddwl cymunedol, camddefnyddio sylweddau, cleifion allanol a diagnosteg.

"Y gobaith yw dechrau ar y gwaith o baratoi'r safle y gwanwyn yma."

Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol dros y Democratiaid Rhyddfrydol Jenny Randerson: "Wedi deng mlynedd mae'n rhyddhad i gleifion a thrigolion Caerdydd a'r cyffiniau bod rhywbeth am ddigwydd i safle Ysbyty Brenhinol Caerdydd."

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Ysbyty: £19m ar system drydanol
27 Chwef 09 |  Newyddion
Agor ysbyty £13.5m yn hwyr
05 Chwef 09 |  Newyddion
Dadorchuddio uned ganser deithiol
03 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific