British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2009, 16:15 GMT
Achos o'r diciu mewn ysgol

Ysgol David Hughes
Mae'r disgybl ym mlwyddyn 12 yn Ysgol David Hughes
Mae disgybl chweched dosbarth yn Ynys Mn yn cael ei drin am y diciu.

Dywedodd swyddogion iechyd bod y disgybl ym mlwyddyn 12 yn Ysgol David Hughes yn gwella ar l cael triniaeth.

Fe fydd 62 o ddisgyblion a chwe aelod o staff yn cael eu profi am y diciu ar Fawrth 30 ar l dod i gysylltiad 'r disgybl.

Mae'r risg i ddisgyblion eraill yn isel iawn, yn l swyddogion iechyd, ond mae rhieni wedi cael rhybudd i gysylltu 'u meddyg teulu ar unwaith os yw eu plant yn sl.

Dywedodd Dr Chris Whiteside, sy'n ymgynghorydd ar reoli afiechydon trosglwyddadwy ar ran Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, y byddai'r profion yn golygu profion croen.

Brechiad

"Fe fydd y canlyniadau'n cael eu harchwilio rhai diwrnodau wedyn i benderfynu a fydd angen archwiliad pellach neu'r brechiad BCG.

"Mae llythyron wedi cael eu hanfon at ddisgyblion a rhieni plant yn yr ysgol i esbonio'r drefn ac mae pobl broffesiynol o'r byd iechyd wedi bod ar gael i ateb cwestiynau'r disgyblion a'r staff.

"Mae'r risg i holl fyfyrwyr yr ysgol yn isel iawn, ac mae trosglwyddo'r diciu mewn ysgolion yn anghyffredin yn y DU.

"Fodd bynnag, os yw eich plentyn chi'n sl neu os ydych chi'n gofidio, cysylltwch 'ch meddyg teulu."

Mae Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd yn cael clywed am oddeutu 200 o achosion o'r diciu bob blwyddyn yng Nghymru.

Dywedodd y Dr Whiteside nad oes tystiolaeth sy'n cysylltu'r achos hwn 'r achos diweddar mewn meithrinfa yng nghymoedd y De.

Bacteria Mycobaterium Tuberculosis sy'n achosi'r diciu.

Caiff ei ddarganfod fel arfer yn yr ysgyfaint, ond gall effeithio ar unrhyw ran o'r corff.



HEFYD
Gobaith am gyffur i ymladd diciau
11 Gorff 01 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific