British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 9 Mawrth 2009, 13:00 GMT
Ysgyfaint 'symudol' i gleifion

Ysgyfaint 'symudol'
Mae'r ddyfais yn caniatau i ocsigen gyrraedd y gwaed

Mae gwyddonwyr wrthi yn datblygu ysgyfaint 'symudol' a allai fod o fudd i helpu pobl sydd phroblemau anadlu i fyw bywyd mwy normal.

Dywed y rhai sydd tu cefn i'r fenter y gallai'r ddyfais olygu fod 'na ddewis arall yn hytrach na gorfod dibynnu ar drawsblaniad.

Yn l gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe fe allai hi fod yn sawl blwyddyn eto cyn y bydd y ddyfais, sy'r un maint a chs sbectol, ar gael i'r cyhoedd.

Mae cleifion sydd wedi gweld y ddyfais wedi croesawu'r gwaith ymchwil.

8 miliwn

Yn l y Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig mae 'na dros 40 cyflwr sy'n effeithio'r ysgyfaint a gallu person i anadlu.

Mae'r rhain yn cynnwys canser yr ysgyfaint, y diciu, asthma, cystig ffibrosis a bronchiolitis.

Yn l gwaith ymchwil gan y sefydliad, mae un ym mhob saith o bobl wedi eu heffeithio gan salwch yn yr ysgyfaint - tua 8 miliwn o bobl.

Dywed y Gwasanaeth Trawsblannu fod 287 o bobl yn aros am drawsblaniad ysgyfaint ers Mawrth 31, 2008.

Fe allai'r ddyfais, sy'n cael ei ddatblygu gan wyddonwyr Abertawe, fod o fudd i nifer o gleifion.

Realistig

Mae'r ddyfais yn efelychu gwaith yr ysgyfaint - sef cael ocsigen i'r gwaed a chael gwared charbon deuocsid.

Cafodd y syniad ei ddatblygu gan yr Athro Bill Johns ar l i'w fab farw o Cystig Ffibrosis.

"Mae'n bwysig ein bod yn datblygu rhywbeth fydd o gymorth.

"Y nod yw galluogi pobl sy' ar hyn o bryd mewn cadair olwyn ac yn ddibynnol ar ganister ocsigen, i allu cerdded."

Ond mae disgwyl i gwaith ymchwil gymryd rhai blynyddoedd meddai Chris Mulholland o Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig.

"Mae'n bwysig pwysleisio ein bod flynyddoedd o weld y ddyfais yn cael ei dreialu.

"Tra'n bod yn croesawu'r datblygiad mae'n rhaid bod yn realistig a derbyn fod un o bob pump ohonon agen help nawr."

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Ysgyfaint: Cymoedd yn diodde
25 Medi 03 |  Newyddion
Prinder meddygon ysgyfaint
26 Meh 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific