|
Mae dyn 36 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o ladrata, herwgipio, twyll a throseddau'n ymwneud a drylliau.
Cafodd Gareth Siarl Williams o Fodffordd, Ynys Môn, ei arestio gan yr heddlu yn ardal Caer dros y penwythnos.
Mae'n wynebu pedwar cyhuddiad o ladrata, pedwar cyhuddiad o dan y ddeddf drylliau, cyhuddiad o herwgipio, twyll a phedwar cyhuddiad arall.
Ymddangosodd o flaen ynadon Caer.
Cafodd Mr Williams ei arestio ar ôl apêl am wybodaeth gan yr heddlu'r wythnos diwethaf.
Cafodd ei arestio mewn cysylltiad â lladrad mewn siop betio yng Nghaer ar Fawrth 2.
|