British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Mawrth 2009, 18:43 GMT
Prosiect £49m i helpu ieuenctid

Pobl ifanc
Fe fydd y cynllun, Cyrraedd y Nod, yn targedu plant 11-19 oed

Fe fydd cynllun gwerth miloedd o bunnoedd yn cael ei gyflwyno ar draws de a gorllewin Cymru i helpu pobl ifanc 11-19 oed roi troed ar yr ysgol waith.

Bwriad cynllun £49 miliwn Llywodraeth y Cynulliad ydi cefnogi 30,000 o bobl ifanc a'i hatal nhw rhag gadael byd addysg a byd gwaith.

Mae'n dilyn cynllun llai a gyhoeddwyd ar gyfer cymoedd de Cymru.

Ond mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod nifer y bobl ifanc sydd ddim o fewn y system addysg na'r system waith ar gynnydd.

Fe fydd y cynllun, Cyrraedd y Nod, yn targedu plant 11-19 oed ar draws gorllewin a chymoedd de Cymru i geisio eu hatal rhag bod yn un o'r ystadegau sy'n cael eu hadnabod fel rhai sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (Neets).

Cafodd y cynllun ei gyhoeddi ddydd Iau gan ddirprwy brif weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, a gweinidog addysg Cymru Jane Hutt.

Buddsoddiad

Mae £27 miliwn yn deillio o Gronfa Cymdeithasol Ewrop a'r gweddill gan Lywodraeth y Cynulliad a noddwyr eraill.

Mae'r prosiect wedi cael ei gynllunio i gynnal gweithdai a phrofiad gwaith i bobl ifanc a fydd yn rhoi sgiliau allweddol iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

"Mae hwn yn fuddsoddiad allweddol yn nyfodol ein pobl ifanc," meddai Mr Jones.

"Mae'r rhaglen yn cynnig cefnogaeth a hwb i ganiatŠu i bobl ifanc ennill y sgiliau allweddol i ddatblygu."

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn croesawu unrhyw gymorth ychwanegol a fydd yn rhoi cyfle i blant ond bod nifer y Neets yn cynyddu.

"Mae'n dweud llawer nad ydi gweinidogion y llywodraeth wedi gwneud dim i ateb y broblem yma cyn y newid yn yr economi," meddai llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Paul Davies.

Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfyrdil, Jenny Randerson, bod angen gwneud mwy i helpu pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed.

Ymhlith noddwyr y cynllun newydd y mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Plant yng Nghymru, Funky Dragon, Cymdeithas Achub y Plant, Community Music Wales, Techniquest, Snap Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi cynllun £7 miliwn ar gyfer dros 7,000 o blant y cymoedd rhwng 11 a 13 oed sydd mewn perygl o adael ysgol heb gymwysterau.

Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific