British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Mawrth 2009, 13:47 GMT
Hypnotydd enwog yn marw

Wynne Roberts
Collodd Wynne Roberts ei frwydr yn erbyn cansyr

Bu farw'r hypnotydd enwog Wynne Roberts ar ôl brwydr hir yn erbyn cansyr.

Yn wreiddiol o Gaergybi, bu'n byw ym Mhrestatyn ers tro a chyn hynny yn Wrecsam am rai blynyddoedd.

Roedd yn gyflwynydd ar ei raglen ei hun - 'Y Sioe Anghyffredin' - a bu'n gyfrannwr rheolaidd i raglenni Radio Cymru.

Er ei fod yn enwog am sioeau llwyfan, roedd hefyd yn arbenigwr hypnotherapi i'r grŵp meddygol BUPA.

Ar ôl y bomio Llundain yn 2005, bu'n defnyddio hypnotherapi i gwnsela rhai a ddioddefodd yn y drychineb honno.

Roedd hefyd yn aelod o FESH (Federation of Ethical Stage Hypnotists), ac fe enillodd wobrau am ei sioe lwyfan gan gynnwys sioe cabaret orau a sioe cabaret ryngwladol orau.

Cynhelir ei angladd yn amlosgfa Bae Colwyn ddydd Mawrth, Mawrth 10 am 1130am.

Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific