British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009, 14:40 GMT
Awdurdod Parc Cenedlaethol yn diogelu dyfodol coleg

Coelg Harlech
Mae'r caniatād yma yn sicrhau dyfodol y coleg

Fe fydd canolfan newydd yn cael ei ddatblygu yng Ngholeg Harlech.

Dydd Mercher fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gefnogi'r cais yn unfrydol.

Fe fydd y coleg yn datblygu Canolfan Gynadledda ac Addysgiadol newydd.

Mae'r caniatād yn golygu bod dyfodol Coleg Harlech wedi ei ddiogelu.

Mae Coleg Harlech yn darparu cyrsiau sydd wedi eu llunio yn bwrpasol i gwrdd ag anghenion oedolion gan ddarparu cyrsiau preswyl hir a byr gyda'r dydd a'r nos.

Mae'r cynllun yn cynnwys newidiadau i Theatr Ardudwy a'r Wern Fawr, adeilad sydd wedi ei gofrestru.

'Cyffro'

Bydd adeilad addysgol a bloc myfyrwyr newydd yn cael eu codi fel rhan o'r datblygiad.

Coleg Harlech a Theatr Ardudwy
Fe fydd y cynllun yn cynnwys gwaith i Theatr Ardudwy hefyd

Hefyd fe fydd 'na adnoddau cynadledda ac arddangos ac unedau busnes.

"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ac uchelgeisiol iawn," meddai Aled Sturkey, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri.

"Fe fydd yn sicr o gyfrannu'n helaeth at ddyfodol economaidd ac addysgiadol Harlech a'r ardal."

Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y datblygiad yn dwyn ffrwyth.

Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific