British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009, 19:00 GMT
Dim Sesiwn Fawr oherwydd dyledion

Sesiwn Fawr Dolgellau
Mae miloedd wedi mwynhau'r Sesiwn Fawr dros y blynyddoedd

Ni fydd y Sesiwn Fawr yn cael ei chynnal yn Nolgellau eleni.

Daeth y trefnwyr i'r penderfynaid oherwydd dyledion o dros £50,000.

Ond fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yr wythnos nesa i lansio cronfa apêl i'r Sesiwn.

Mae'r trefnwyr felly yn obeithiol o gynnal yr ŵyl unwaith yn rhagor y flwyddyn nesaf.

Gwnaeth yr ŵyl golled sylweddol yn ystod penwythnos gwlyb y Sesiwn yn 2007, ac fe wnaeth golled fechan y llynedd yn ogystal.

Roedd costau cynnal yr ŵyl y llynedd yn £180,000, a dim ond rhyw £15,000 gafwyd mewn grantiau tuag at ei chynnal.

Masnachu anghyfreithlon

Yn ôl un o gyfarwyddwyr yr ŵyl, Ywain Myfyr, doedd dim dewis.

Ywain Myfyr
Mae Ywain Myfyr yn gobeithio bydd 'na Sesiwn Fawr yn 2010
"Y sefyllfa ydi fod ganddom ni ddyled - mae ganddom ni gredydwyr - a'r teimlad felly ydi y gallai cynnal gŵyl yn 2009 gael ei weld fel masnachu anghyfreithlon," meddai.

"Does gan y pwyllgor na'r cyfarwyddwyr ddim bwriad i roi'r gorau iddi.

"Ry'n ni'n gobeithio y byddwn ni'n ôl yn 2010 hefo Sesiwn Fawr, ond yn sicr mi fydd hi'n wahanol."

Dywedodd y bydd yn gyfle i edrych ar yr arlwy a'r hyn sy'n cael ei gynnig.

"Mae'n adlewyrchu ar Gymru, ac mae yna le i ofyn os oes yna ddyfodol i ŵyliau mor fawr," ychwanegodd.

Ergyd drom

Fe fydd peidio cynnal yr ŵyl yn cael effaith ar fusnesau yn nhre Dolgellau hefyd.

Tŷ Siamas, Dolgellau
Bydd cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol y Sesiwn Fawr

Dywedodd perchennog tafarn yr Unicorn, Barry Jones, bod y Sesiwn yn bwysig iawn idddyn nhw.

"Mae'r Sesiwn yn helpu i'n cynnal ni yn ystod y gaeaf.

"Eleni os ydi'r Sesiwn ddim i fod, 'da ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd. Mae'n mynd i fod yn ergyd drom."

Nid dyma'r unig ŵyl sy'n wynebu trafferthion ariannol yng Nghymru.

Mae'r trefnwyr yn cyfadde nad ar chwarae bach y bydd modd codi'r arian i glirio'i dyledion.

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn Nhŷ Siamas, Dolgellau am 7.30pm nos Fawrth, Mawrth 10, i lansio cronfa apêl i godi arian i'r Sesiwn Fawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad bod y newydd am drafferthion ariannol yr ŵyl yn anffodus.

"Dyma ŵyl sydd wedi cael ei chynnal ers sawl blwyddyn.

"Rydym yn dymuno pob llwyddiant i'r trefnyddion gyda'r apêl ac yn gobeithio gall y digwyddiad gael ei ail-lansio yn 2010."

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Penwythnos: Sesiwn 'heb ei hail
18 Gorff 08 |  Newyddion
Gwyl Jazz Aberhonddu am ddigwydd
18 Chwef 09 |  Newyddion
Gwyliau gwerin yn egino
15 Awst 08 |  Newyddion
'Artistiaid cyffrous' yn y Sesiwn
20 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific