British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009, 12:06 GMT
Lleidr yn dianc: Chwilio'n parhau

Gareth Siarl Williams
Fe ddihangodd o Lys y Goron Yr Wyddgrug
Mae'r heddlu'n parhau i geisio dal lleidr swyddfeydd post ddihangodd o'r llys cyn cael ei ddedfrydu.

Fe ddihangodd Gareth Siarl Williams, 36 oed o Fodffordd, Ynys Môn, o Lys y Goron Yr Wyddgrug ar Ragfyr 23 cyn cael ei ddedfrydu.

Roedd Williams wedi pledio'n euog i dri chyhuddiad o ddwyn arian o is-swyddfeydd post yn y gogledd a phum cyhuddiad o dwyll.

Fe gafodd isbostfeistri ysgytwad ond chafodd neb ei anafu.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn gofyn am help y cyhoedd.

Y gred yw iddo ddwyn car Vauxhall Astra o ganol y dref a dywedodd yr heddlu na ddylai neb fynd yn agos ato. Rhif cofrestru'r car yw N125 CEY.

Fe ddylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 0845 6071001 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.

Fe gafodd Williams ei arestio ym mis Tachwedd yn Lerpwl.

Fe blediodd yn euog i ddwyn arian oddi wrth is-swyddfeydd post yn Llanddaniel, Ynys Môn, ar Hydref 24, Llanarmon-yn-Iâl ger Yr Wyddgrug ar Hydref 31 a swyddfa bost yn Ashton ger Caer ar Hydref 8.

Cyfanswm yr arian gafodd ei ddwyn oedd £11,500.

Bob tro roedd wedi bygwth isbostfeistres â chyllell fawr.



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific