British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009, 17:10 GMT
Angladdau peilot a chadet awyr

Flight Lieutenant Andy Marsh and Nikkita Walters
Cafodd angladdau'r Liwtenant Marsh a Nikkita Walters eu cynnal ddydd Mawrth

Mae angladdau peilot ac un o ddwy ferch gafodd ei lladd mewn damwain awyren wedi cael eu cynnal.

Bu farw'r Liwtenant Awyr Andy Marsh, 24 oed, a Nikkita Marie Walters, 13 oed yn y ddamwain ger Porthcawl.

Roedd awyren yn hedfan uwchben Mynwent Penarth ym Mro Morgannwg yn dilyn claddedigaeth y Liwtenant Marsh.

Roedd rhesi o bobl yn bresennol y tu allan i Eglwys Dewi Sant yn Nhonyrefail ar gyfer gwasanaeth angladdol Nikkita, a bu awyrennau'n hedfan er cof amdani hi'n ddiweddarach ddydd Mawrth.

Cafodd y ddau eu lladd fis diwethaf, ynghyd chyfnither Nikkita, Katie-Jo Davies, 14 oed, a pheilot arall, yr uwch-swyddog Hylton Price, oedd yn 63 oed.

Roedd y ddwy ferch o'r Gilfach Goch yn gadetiaid awyr ym Mhontypridd.

Roedden nhw'n cael blas ar hedfan pan ddigwyddodd y ddamwain wrth i'r awyrennau hedfan funud oddi wrth ei gilydd cyn y gwrthdrawiad.

Dyma'r tro cyntaf i Katie-Jo fod mewn awyren ers ymuno 'r cadetiaid cyn y Nadolig.

Ymchwiliad

Mae ymchwiliad wedi dechrau i geisio ddarganfod beth yn union ddigwyddodd cyn i'r awyrennau daro yn erbyn ei gilydd a glanio ar y twyni tywod ger Porthcawl ar Chwefror 11.

Roedd Liwtenant Marsh wedi graddio yn y Gyfraith o Brifysgol Caerdydd cyn dilyn gyrfa yn y Llu Awyr ar safle'r Fali.

Swyddogion o'r Llu Awyr gludodd arch Nikkita i mewn i'r eglwys yn Nhonyrefail.

Ar l y gwasanaeth, daeth ei ffrindiau ysgol at ei gilydd i ffurfio llinell anrhydedd er cof amdani, cyn i'w harch gael ei gludo i Amlosgfa Coychurch, lle mae disgwyl i awyren hedfan uwchben yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

HEFYD
Damwain awyren: Pedwar wedi marw
11 Chwef 09 |  Newyddion
Munud union oedd rhwng dwy awyren
19 Chwef 09 |  Newyddion
Damwain: chwilio am dystiolaeth
12 Chwef 09 |  Newyddion
Teyrnged yr awyrlu i beilot
26 Chwef 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific