Cafodd Lynette White ei thrywannu dros 50 gwaith yn ei fflat
|
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi rhoi gwybod i Heddlu De Cymru bod 'na ddigon o dystiolaeth i erlyn 15 o bobl mewn cysylltiad â'r ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth Lynette White.
Mae nifer o'r 15 yn blismyn neu yn gyn-blismyn.
Cafodd pum dyn eu cyhuddo ar gam o ladd y butain dros 20 mlynedd yn ôl yng Nghaerdydd.
Plediodd Jeffrey Gafoor yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Gorffennaf 2003 i lofruddio Ms White ac fe gafodd o'i garcharu am oes.
Daeth yr achos yn un o'r achosion amlyca ym Mhrydain o gamweinyddu cyfiawnder ar ôl i Stephen Miller, Yusef Abdullahi ac Antony Paris, gael eu rhyddhau ar ôl achos yn y Llys Apêl.
Ymchwiliad
Cafodd Ronnie a John Actie eu cyhuddo hefyd o lofruddiaeth ond ar ôl achos llys yn Abertawe yn 1990 fe gafwyd y ddau yn ddi-euog.
Mae naw o'r 15 wedi ymddeol o'r heddlu, tri yn dal i wasanaethu'r heddlu, un yn aelod o staff yr heddlu a dau berson arall wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r ymchwiliad yn 1988.
 |
Y 15 SY'N WYNEBU CYHUDDIADAU:
Swyddogion Heddlu De Cymru sy'n wynebu cyhuddiadau o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder:
Y Cwnstabl John Howard Murray; Y Ditectif Sarjant Paul Stephen a'r Ditectif Gwnstabl Paul Jennings
Aelod o staff Heddlu De Cymru sy'n wynebu cyhuddiadau o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder:
Staff Heddlu De Cymru sydd wedi ymddeol ac yn wynebu cyhuddiadau o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder:
Graham Mouncher; Richard Powell; Thomas Page; Michael Daniels; John Brian Gillard; Peter Greenwood; John Seaford; Rachel O'Brien a Stephen Hicks
Aelodau'r cyhoedd sy'n wynebu dau gyhuddiad o ddweud celwydd yn ystod achos llys:
Violet Elizabeth Perriam a Ian Albert Massey
|
Fe wnaeth Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu oruchwylio ymchwiliad o'r newydd i'r ymchwiliad gwreiddiol.
Dywedodd Comisiynydd Cymru o'r comisiwn, Tom Davies, bod hi'n bwysig bod camweinyddu cyfiawnder yn cael ei drin yn gywir er budd Heddlu De Cymru a'r cyhoedd.
"Yn hyn oll, rhaid peidio anghofio bod Lynette White wedi marw...ac mae'n meddyliau gyda'i theulu a'i ffrindiau.
"Mae'n bwysig o ran hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth heddlu a'r broses cwynion, bod stori llawn yr ail-ymchwiliad yn cael ei ddweud yn gyhoeddus.
"Fe fydd achos llys y 15 yma yn caniatáu hyn."
Dywedodd bod y comisiwn wedi penderfynu goruchwylio'r ail-ymchwiliad dair blynedd yn ôl.
"Mae hi wedi bod yn ymchwiliad hir a chymhleth ac rydym fel comisiwn wedi cydweithio'n achos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyrraedd y cyhoeddiad heddiw," ychwanegodd Mr Davies.
"Dwi'n fodlon bod hwn wedi bod yn ymchwiliad trylwyr a bod y mater nawr o fewn y system gyfiawnder ac felly fe fyddai'n anaddas i mi wneud unrhyw sylw pellach."
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r De, Colette Paul, bod meddyliau'r llu gyda theulu Ms White gafodd ei llofruddio yn ei fflat yn Nhrebiwt, Caerdydd ar Chwefror 14 1988.
"Mae datblygiadau heddiw yn dwyn atgofion chwerw i'w theulu.
"Rhaid cofio hefyd y rhai ddioddefodd oherwydd camweinyddu cyfiawnder, Ronald a John Actie wnaeth wynebu dau achos llys a Yusef Abdullahi, Stephen Miller ac Antony Paris gafodd eu dedfrydu ar gam ar ddiwedd yr ail achos."
Fe fydd y 15 yn ymddangos o flaen Ynadon Dinas Westminster ar Ebrill 24.
Ym mis Rhagfyr fe gafodd tri person, Mark Grommek, Leanne Vilday ac Angela Psaila, eu caracharu am 18 mis ar ôl pledio'n euog I ddweud celwydd yn yr achos gwreiddiol.
|