British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009, 11:43 GMT
Llai o deithau trên i Lundain

Gorsaf Wrecsam
Mae’r cwmni yn gobeithio ehangu gwasanaethau penwythnos

Mae cwmni sy'n darparu gwasanaeth trên uniongyrchol o Wrecsam i Lundain yn cwtogi nifer y gwasanaethau dyddiol.

Lai na blwyddyn ers i'r gwasanaeth gael ei lansio, y dirwasgiad sy'n cael y bai yn ôl cwmni Rhwydwaith Wrecsam a Sir Amwythig.

Ychwanegodd bod y dirwasgiad yn cael effaith ar batrwm trafnidiaeth cwsmeriaid.

Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei gwtogi o bum gwasanaeth y dydd i dri.

Dywedodd y cwmni bod y ddau wasanaeth "llai poblogaidd", y gwasanaeth 3.23pm a 5.23 i orsaf Marylebone yn Llundain a'r gwasanaeth 10.17am a 12.17 o Lundain yn dod i ben.

Fe fydd hyn yn cael effaith ar orsafoedd yn Sir Amwythig, Tame Bridge Parkway a Banbury.

Anghenion y cwmser

Ond dywedodd y cwmni nad ydi'r gwasanaeth dros y penwythnos yn cael eu heffeithio.

"Fyddwn ni ddim yn rhedeg rhai o'n gwasanaethau yn yr oriau brig o ddydd Llun ymlaen," meddai Andy Hamilton, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni.

"Rydym yn rhedeg gwasanaethau heb gymhorthdal gan y llywodraeth ac mae'n rhaid i ni ymateb i anghenion y cwsmer, yn enwedig yn ystod y dirwasgiad.

Yr hyn sy'n bwysig ydi bod pobl yn dal i ddefnyddio'r gwasanaeth pwysig yma
Ian Lucas AS

"Mae 'na gryn alw am rai gwasanaethau ac er ein bod yn bwriadu dileu rhai gwasanaethau, rydym yn edrych ar y posibilrwydd o gynyddu gwasanaethau dros y penwythnos, yn benodol ar ddydd Sul.

"Fe fyddwn ni'n parhau i gynnig gwasanaeth gwerth am arian a gwasanaeth da."

Dywedodd y cwmni y byddan nhw'n cysylltu gyda chwsmeriaid, lle mae'n bosib, sydd wedi archebu gwasanaeth ymlaen llaw ac i gynnig gwasanaeth arall neu ad-daliad llawn.

"Rydym yn gwybod y bydd hyn yn cael effaith ar rai cwsmeriaid ac rydym yn gresynu hyn," meddai Mr Hamilton.

"Rydym yn awyddus i barhau gyda'r gwasanaeth ac yn gobeithio mai rhywbeth dros dro ydi hyn.

"Rydym eisoes mewn trafodaethau gyda Network Rail i allu rhedeg mwy o wasanaethau pan fydd yr economi yn gwella."

Ym mis Ebrill 2008 y cychwynnodd y gwasanaeth rhwng Wrecsam a Llundain drwy Sir Amwythig, y tro cyntaf mewn 41 mlynedd.

'Siomedig'

Ar y pryd dywedodd y cwmni eu bod yn "hyderus y bydd 'na farchnad gref am y gwasanaeth" a hynny drwy gymharu prisiau a phrofiad.

Roedd Ieuan Wyn Jones, Gweinidog Economaidd Cymru, ac Ian Lucas, AS Wrecsam, yn y seremoni agoriadol.

"Mae'r cyhoeddiad diweddara yn newyddion siomedig ond dwi'n deall y meddylfryd," meddai Mr Lucas ddydd Mawrth.

"Dwi'n gwybod y bydd y cwmni yn dal i fuddsoddi yn lleol - dim ond yr wythnos diwethaf yr oedd caffi newydd yn agor yn yr orsaf - ac rwy'n ffyddiog am ddyfodol gwasanaeth rheilffordd yn y dref.

"Mae'r modd mae'r cwmni yn bwriadu gwneud newidiadau yn mynd i achosi'r ergyd lleia i deithwyr.

"Yr hyn sy'n bwysig ydi bod pobl yn dal i ddefnyddio'r gwasanaeth pwysig yma."

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cyswllt trên o Wrecsam i Lundain
01 Chwef 06 |  Newyddion
Trên: Adfer cysylltiad â Llundain
28 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific