British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009, 10:59 GMT
Ymchwiliad ar l cam-drin plant

Llys y Goron Caerdydd
Cafodd y bachgen ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymchwilio ar l i ddyn yn ei arddegau gael ei roi yng ngofal cwpl o'r ardal er gwaethaf hanes o droseddau rhyw yn ymwneud phlant.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod mab a merch y teulu wedi cael eu cam-drin yn rhywiol gan y bachgen.

Mae'r dyn 19 oed bellach wedi clywed y bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf chwe blynedd dan glo a'i ryddhau dim ond pan na fydd yn risg i'r cyhoedd.

Mae rhai o reolwyr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y cyngor wedi cyfarfod 'r cwpl i ymddiheuro ac i gynnig cefnogaeth.

Doedd y teulu ddim yn ymwybodol o gefndir y dyn sy'n dyddio'n l i 2004.

Trylwyr

Mewn datganiad dywedodd y cyngor eu bod yn ymddiheuro am y gofid a achoswyd drwy osod y bachgen yn eu gofal.

"Mae'r cyngor wedi galw am ymchwiliad brys i'r amgylchiadau arweiniodd ar hyn," meddai Phil Evans, cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol.

"Mae'r NSPCC wedi cytuno i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn drylwyr.

"Er bod yr ymchwiliad yn y dyddiau cynnar, mae'n amlwg bod 'na gamgymeriad mawr wedi bod wrth roi cartref i'r dyn gyda'r teulu yma."

Dywedodd y cyngor eu bod yn ystyried y mater yn ddifrifol iawn ac yn ymchwilio i'r hyn aeth o'i le ac i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

Fe wnaed yr honiadau cyntaf am ymddygiad rhywiol y dyn yn 2004.

Honnir ei fod wedi ymddwyn yn rhywiol amhriodol tuag at fachgen arall.

Yn 2005 honnir ei fod wedi cyffwrdd bachgen yn rhywiol pan oedd y ddau yn byw mewn hostel yn Lloegr.

Ac yn 2007, honnir iddo gam-drin person 16 oed pan oedden nhw'n aros yn yr un hostel.

Er mwyn gwarchod teulu'r plant, does dim modd enwi'r bachgen gafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.

Roedd o wedi cyfadde i ymosod yn rhywiol ac yn dreisiol ar blant y cwpl lle'r oedd yn aros.

Dywedodd y Barnwr Nicholas Cooke QC bod yr achos yn drasiedi i'r cwpl a oedd yn dymuno gwasanaethu'r gymuned a helpu'r bachgen.

Mae enw'r dyn wedi cael ei roi ar gofrestr troseddwyr rhyw ac mae o wedi cael ei wahardd rhag gweithio gyda phlant am byth.

Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific