British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 2 Mawrth 2009, 16:51 GMT
Ffilm ddadleuol yn boblogaidd

John Cleese, Michael Palin a Graham Chapman
John Cleese, Michael Palin a Graham Chapman yw rhai o sr y ffilm Monty Python

Mae'r holl docynnau ar gyfer ymddangosiad cyntaf y ffilm Monty Python: The Life of Brian ar y sgrîn fawr yn Aberystwyth ers 30 o flynyddoedd, wedi cael eu gwerthu.

Fe fydd dau o sêr y ffilm, Terry Jones a Michael Palin yn bresennol yng Nghanolfan y Celfyddydau'r dref ar Fawrth 28, ynghyd â Maeres y dref, Sue Jones-Davies, oedd hefyd yn un o sêr y ffilm.

Cafodd y ffilm ei gwahardd yn Aberystwyth 30 o flynyddoedd yn ôl am resymau crefyddol.

Fe fydd 120 o bobl yn y ganolfan i wylio'r ffilm.

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwraig Canolfan y Celfyddydau bod y rhan fwyaf o'r gynulleidfa'n bobl leol, ond mae rhai yn dod o Gaerdydd a'r Bontfaen ar gyfer yr achlysur.

Ms Jones-Davies chwaraeodd rhan cariad Brian yn y ffilm.

Y Meseia

Ms Jones-Davies oedd y sbardun ar gyfer dangos y ffilm yn Aberystwyth ar ôl iddi glywed am y gwaharddiad.

Ym 1979, roedd gwrthwynebwyr i'r ffilm yn honni ei bod hi'n gwneud hwyl am ben Iesu Grist, ac fe gafodd y ffilm ei beirniadu am ei chynnwys 'gwrth-Iddewig'.

Cafwyd gwrthdystiadau mewn sinemâu oedd yn dangos y ffilm.

Fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd Ms Jones-Davies ei bod hi'n rhyfeddu at agwedd ei thref wrth wahardd y ffilm sy'n cael ei hystyried yn glasur comedi.

Fe fydd yr elw o'r noson yn mynd at elusennau sydd wedi cael eu dewis gan Terry Jones a Ms Jones-Davies ei hun.

Fe fydd y ddau actor a'r Faeres yn cynnal sesiwn holi ac ateb yn dilyn derbyniad champagne.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific