|
Y cynulliad yn carlamu at refferendwm?
|
Fe fyddai dros hanner poblogaeth Cymru yn pleidleisio o blaid senedd ddeddfwriaethol i Gymru mewn refferendwm, yn ôl arolwg barn gan BBC Cymru/ICM.
Hwn yw'r arolwg barn cyntaf lle mae'r gefnogaeth i Senedd wedi croesi'r trothwy o 50%.
O'r mil o bobl holwyd gan ICM roedd 52% yn cefnogi pwerau deddfu llawn i'r cynulliad gyda 39% yn erbyn a 9% yn ansicr.
Yn yr arolwg cyfatebol flwyddyn yn ôl roedd 49% o blaid, 39% yn erbyn a 9% yn ansicr.
Mae'n ymddangos felly bod y gefnogaeth i ddatganoli pellach wedi cryfhau ond heb eto gyrraedd lefel i ddarbwyllo'r gwleidyddion i alw pleidlais.
Pan ofynnwyd yn fwy manwl ynghylch y ffordd y dylai Cymru gael ei llywodraethu, Senedd i Gymru gyda'r hawl i ddeddfu ac i godi trethi oedd yr opsiwn fwyaf poblogaidd gyda 34% yn cefnogi'r dewis.
Senedd yr Alban: Mwy o rym
|
Roedd 10% am weld Senedd heb y pŵer i godi trethi, 8% yn cefnogi annibyniaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd a 5% o blaid annibyniaeth lwyr.
Dim ond 21% sy'n cefnogi'r setliad presennol tra roedd 19% am ddiddymu'r cynulliad.
Anwybodaeth
Er gwaetha'r cynnydd yn y gefnogaeth i ddatganoli pellach mae'n ymddangos bod yr anwybodaeth ynghylch y cynulliad yn parhau. Dim ond 48% oedd yn gwybod mai Llafur a Phlaid Cymru sy'n ffurfio'r llywodraeth. 40% oedd y ffigwr flwyddyn yn ôl.
Serch hynny mae nifer cynyddol yn credu bod gwleidyddion y Bae Caerdydd â mwy o ddylanwad dros fywyd pob dydd yng Nghymru na gwleidyddion San Steffan.
Dathlu: Y bleidlais o blaid sefydlu cynulliad
|
Mae 40% o'r farn mai Llywodraeth y Cynulliad sydd â'r dylanwad mwyaf. 29%, 15% ac 8% yw'r ffigyrau cyfatebol i San Steffan, y cynghorau a'r Undeb Ewropeaidd.
Ac yntau'n ymddeol yn ddiweddarach eleni roedd 'na newyddion da i Rhodri Morgan yn y canlyniadau. Roedd 65% o'r farn ei fod wedi bod yn Brif Weinidog da a dim ond 21% yn credu ei fod wedi bod yn sâl wrth ei waith.
|