British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 27 Chwefror 2009, 09:42 GMT
Dewi Sant: Wythnos o ddathlu

Sgwr y Castell yn goch
Mae wythnos o ddigwyddiadau yn Abertawe i ddathlu Gŵyl Ddewi

Mae wythnos o ddigwyddiadau'n cael ei chynnal yn Abertawe i godi ymwybyddiaeth am Ddewi Sant a Chymreictod ar drothwy Mawrth 1.

Cyn Dydd Gŵyl Dewi mae llu o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws y ddinas.

Uchafbwynt yr wythnos i rai, fydd ymddangosiad y diddanwr byd enwog, Max Boyce ar lwyfan Theatr y Grand, a'i genhinen.

Fe fydd llu o weithgareddau eraill yn ystod yr wythnos, gan gynnwys 'Cawl a Chacennau' yng nghanolfan Plantasia ar gyrion y ddinas, fydd yn gyfle i flasu danteithion lleol poblogaidd.

Fe fydd noson debyg yn cael ei chynnal hefyd yng Nghanolfan Dylan Thomas ac yn yr eglwys yn ardal Townhill yn y ddinas.

Cawl a Chn

Mae nifer o leoliadau Cymreig yn cynnal llu o ddigwyddiadau hefyd, gyda Milkwoodjam yn cynnig cerddoriaeth Gymraeg gan fandiau ifanc lleol, ac mae canolfan Tŷ Tawe wedi trefnu noson 'Cawl a Chn'.

Dywedodd prif swyddog Menter Iaith Abertawe, David Bryer mai'r nod yw apelio at gynulleifa eang.

"Mae yna sawl ddigwyddiad i blant, teuluoedd a dysgwyr i fwynhau hwyl yr ŵyl.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Gofyn i droi Gwyl Dewi yn wyl banc
19 Maw 02 |  Newyddion
Gwyl gyhoeddus i gofio Dewi?
15 Ebr 01 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific