British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Chwefror 2009, 10:06 GMT
Teyrnged yr awyrlu i beilot

Hylton Price
Is-Gapten Hylton Price, 63 oed

Bydd awyren jet Tornado yr awyrlu yn hedfan uwchben angladd peilot fu farw wrth hyfforddi cadet ger Porthcawl.

Dywedodd gweddw Hylton Price, 63 oed ac wedi ymddeol, ei fod ef am i bobl ifanc gael profi'r wefr o hedfan.

Bu farw Hylton Price a hyfforddwr arall Andrew Marsh, 24 oed, yn y ddamwain uwchben twyni tywod ger Porthcawl.

Roedd dwy gyfnither, Katie-Jo Davies a Nikkita Marie Walters yn hedfan gyda nhw, a bu'r ddwy farw hefyd yn y digwyddiad.

Gwireddu'i freuddwydion

Wrth siarad cyn y gwasanaeth yn eglwys Llangrallo, Penybont, dywedodd gweddw Mr Price, Margaret:

"Roedd Hylton eisiau hedfan ers yn blentyn, ac roedd dod yn beilot gyda'r awyrlu wedi gwireddu'i freuddwydion.

"Roedd wastad yn awyddus i roi ei amser i gadetiaid i ennill y profiad a'r wefr o hedfan ac i rannu gwybodaeth a'r cariad oedd ganddo wrth gael rhyddid mewn awyren.

Roedd yr is-gapten Price yn yr awyren gyntaf i adael Sain Tathan am 1036 ar fore Chwefror 11.

Andrew Marsh
Andrew Marsh, 24 oed o Benarth
Clywodd cwest fod Andrew Marsh o Benarth wedi gadael funud yn ddiweddarach.

Mae sawl ymchwiliad wedi dechrau i ddarganfod pam y tarodd y ddwy awyren yn erbyn ei gilydd cyn plymio i'r ddaear ger gwarchodfa natur Cynffig.

Roedd Nikkita a Katie-Jo o Gilfach Goch yn aelodau o'r cadetiaid hyfforddi awyr ym Mhontypridd.

Bydd angladd Mr Marsh yn digwydd yn amlosgfa Llangrallo yn ddiweddarach.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Munud union oedd rhwng dwy awyren
19 Chwef 09 |  Newyddion
Damwain: 'Colled enfawr'
13 Chwef 09 |  Newyddion
Damwain: Enwi'r meirw
12 Chwef 09 |  Newyddion
Damwain awyren: Pedwar wedi marw
11 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific