British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Chwefror 2009, 06:51 GMT
Arglawdd i geisio atal llifogydd

Llifogydd ym Metws y Coed
Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ebrill

Bydd £5.75 miliwn yn cael ei wario er mwyn gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Nyffryn Conwy.

Bydd arglawdd yn cael ei adeiladu yn Nhrefriw ac amddiffynfeydd newydd yn Llanrwst fel rhan o Gynllun Llifogydd Dyffryn Conwy.

Yn 2004 a 2005 fe gafodd amryw o dai a busnesau yr ardal eu difrodi gan lifogydd.

Gwnaed y cyhoeddiad ddydd Iau gan y Gweinidog Amgylchedd Jane Davidson.

Bwriad y gwaith yw lleihau'r risg o lifogydd i dros 90 o gartrefi a busnesau.

"Mae'n debygol y bydd effaith y newid yn yr hinsawdd yn arwain at fwy o lifogydd yng Nghymru," meddai Ms Davidson.

Lleihau'r effaith

"Heb wneud unrhyw beth, rydym yn rhagweld y bydd llifogydd yn digwydd yn fwy aml.

"Ni allwn ni atal llifogydd, ond gallwn geisio lleihau ei effaith ar ein cymunedau.

"Yn y tymor hir, rydym yn amcangyfrif y gallai'r difrod economaidd i'r ardal fod yn fwy na £6.6 miliwn."

Bydd amddiffynfeydd parhaol a symudol yn cael eu gosod yn Llanrwst.

Fe fydd yr argloddiau pridd presennol sy'n amddiffyn tir amaethyddol yr ardal hefyd yn cael eu haddasu fel rhan o'r cynllun.

Mae disgwyl i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ddechrau ar y gwaith ym mis Ebrill.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Arddangos cynllun atal llifogydd
18 Gorff 05 |  Newyddion
Cynllun newydd i atal llifogydd
14 Ion 05 |  Newyddion
Cyfri costau'r difrod llifogydd
09 Ion 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific