British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Chwefror 2009, 13:50 GMT
Yr arwr allai hybu twristiaeth

Dafydd Wyn Morgan o Gymdeithas Twm Sion Cati
Dafydd Wyn Morgan o'r gymdeithas yn cofnodi beth oedd cyfraniad lleidr enwoca Cymru
Mae dwy ardal yn paratoi cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu 400 o flynyddoedd ers marwolaeth lleidr enwoca Cymru.

Ganwyd Twm Sin Cati neu Thomas Jones yn Nhregaron ym 1530 ac mae'r dre a phentre Rhandir Mwyn yn trefnu amserlen o ddigwyddiadau.

Roedd y lleidr yn cuddio mewn ogof anghysbell ar Fynydd Dinas yn ardal Rhandir-mwyn.

Ymhlith atyniadau'r haf mae taith gerdded 20 milltir o hyd o'r ogof i ganol Tregaron.

Mae yna fwriad hefyd i godi cofeb iddo yng nghanol Tregaron.

Bydd cynigion am ddefnyddio hanes yr arwr i hybu busnesau lleol yn cael eu cyflwyno i Gyngor Ceredigion.

Cannot play media. Sorry, this media is not available in your territory.

Dafydd Wyn Morgan a hanes lliwgar Twm Sin Cati

Mae cynrychiolwyr Cymdeithas Twm Sin Cati yn mynd i gyfarfod yn Nhregaron nos Iau i drafod o posibilrwydd o ddefnyddio'r arwr i hybu twristiaeth.

300,000

Dywedodd Niel Owen, Rheolwr Gwasanaethau Twristiaeth y cyngor, fod cronfa o bron 300,000 ar gael i ddatblygu twristiaeth mewn cymunedau gwledig.

"Ry'n ni'n cynnal cyfres o gyfarfodydd yn ardaloedd gwledig Ceredigion er mwyn crynhoi syniadau at ei gilydd.

"Fe fyddwn ni'n casglu trwch y temliadau ymhlith y bobl sy wedi bod yn y cyfarfodydd a chymryd pethe o fan 'nny."

Dywedodd Dafydd Wyn Morgan, Cydlynydd Cymdeithas Twm Sin Cati fod hanes yr arwr yn lliwgar.

"Roedd e'n whare tricie ac yn cael y gore ar bobol oedd yn twyllo pobol leol.

Bedd

"Ac roedd Twm yn helpu pobol leol mewn cyfnod anodd iawn."

Yn l Mr Morgan, mae aelodau'r gymdeithas yn gyffrous oherwydd datblygiad arall.

"Mae yna waith ymchwil yn cael ei wneud ar hyn o bryd.

"Dyw hyn heb ei gadarnhau eto ond, yn l beth dwi'n ei glywed, mae yna fedd yn Aberhonddu charreg yn dweud fod Twm Sion Cati wedi ei gladdu yno."



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific