British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Chwefror 2009, 20:34 GMT
Caerdydd i reoli S4C?

Logo S4C
Llywydd y Cynulliad: Ydy'n synhwyrol bod darlledwr Cymraeg yn cael ei reoli o Lundain?

Mae Llywydd y Cynulliad wedi awgrymu bod angen trafod y syniad o drosglwyddo cyfrifoldeb am S4C o Lywodraeth Prydain i Lywodraeth y Cynulliad.

Yng nghyfarfod Clwb Busnes Caerdydd nos Lun dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas fod angen adolygu sut yr oedd y corff a'i gyllideb yn cael eu rheoli.

Roedd ei sylwadau ar ddiwedd araith Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC Syr Michael Lyons.

Dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas fod S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus unigryw oedd wedi ei sefydlu ers chwarter canrif.

Roedd hi felly'n bryd adolygu trefniadau rheoli'r corff, meddai, wrth ofyn a oedd yn synhwyrol bod darlledwr cyfrwng Cymraeg yn cael ei reoli o Lundain.

Trosgwlyddo

Ar BBC Radio Cymru dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas y byddai modd trosglwyddo swyddogaethau o Lywodraeth Prydain i Weinidog Diwylliant Cymru.

Fe allai buddsoddiad o gyllideb Llywodraeth Cymru, meddai, gyfrannu at ymdrechion i ddiogelu a chynnal swyddi darlledu yng Nghymru.

Dywedodd ei bod hi'n bwysig "cael partneriaeth newydd i edrych at y dyfodol i gynllunio darlledu yng Nghymru, yn wasanaethau dwyieithog ar sawl llwyfan".

Arglwydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad: Angen trafodaeth

Yn ei araith fe soniodd Syr Michael am gydweithio rhwng gwahanol ddarlledwyr "er mwyn diogleu dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus".

Annibyniaeth

Ond ni ddylai partneriaethau, meddai, fod ar draul annibyniaeth olygyddol y BBC a phartneriaid eraill.

Mae BBC Cymru yn darparu mwy na 10 awr o raglenni'r wythnos i'r sianel.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae S4C wedi ei hariannu gan yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ac mae'n atebol i San Steffan.

"Mater i wleidyddion yw unrhyw newid i'r statws hwn."

Rhaglenni plant

Yn y cyfamser, mae S4C wedi gwneud cais i Ofcom i fod yn ddarlledwr rhaglenni plant ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae'r sianel wedi gwneud cais ar y cyd â Channel 4 i sefydlu sianel ddigidol newydd ar Freeview, a fyddai'n dangos Film 4 a rhaglenni plant yn Gymraeg a Saesneg ar draws y Deyrnas Unedig.

Byddai'r cynnyrch, a fyddai'n cael ei ddarlledu rhwng 7am ac 11am pob dydd, yn defnyddio brand S4C ond yn cynnig fersiynau Cymraeg a Saesneg o raglenni mewn diffiniad uchel.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
'Diogelu darlledu cyhoeddus'
23 Chwef 09 |  Newyddion
Darlledu: 'Angen cystadleuaeth'
21 Ion 09 |  Newyddion
ITV: 'Angen hwb ariannol'
03 Rhag 08 |  Newyddion
Cadeirio grwp ar ddarlledu
17 Hyd 08 |  Newyddion
S4C: Her yr oes ddigidol
15 Hyd 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific