British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Chwefror 2009, 21:07 GMT
'Diogelu darlledu cyhoeddus'

Sir Michael Lyons
Dywedodd Syr Michael bod cynlluniau dadleuol ar gyfer gwefannau newyddion lleol yn cynnwys fideo yn "farw"

Mae cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Syr Michael Lyons, wedi dweud bod partneriaethau yn allweddol i ddiogelu darlledu cyhoeddus y tu hwnt i'r BBC, ac y dylai'r gorfforaeth wneud ei rhan i sicrhau hynny.

Ond dywedodd yn ei araith yng Nghaerdydd nos Lun, nad oedd gan yr Ymddiriedolaeth ddiddordeb mewn cynlluniau sy'n trosglwyddo gwerth o'r BBC i ddarparwyr eraill yn y farchnad.

Dywedodd y gallai'r BBC, ITV ac S4C rannu adnoddau technoleg gwybodaeth yng Nghymru ar yr amod bod annibyniaeth golygyddol yn parhau.

Dywedodd Syr Michael hefyd bod cynlluniau dadleuol ar gyfer gwefannau newyddion lleol yn cynnwys fideo yn "farw".

Y llynedd fe wnaeth Ymddiriedolaeth y BBC wrthod y cynlluniau am nad oedd cynnig y BBC yn cwrdd 'r gofyn i roi gwerth arian i'r cyhoedd.

Roedd cwmnau papur newydd wedi beirniadu'r cynllun 68m am eu bod yn poeni y byddai'n ergyd fawr i'w gwefannau lleol nhw.

Dywedodd Syr Michael bod y penderfyniad yn derfynol erbyn hyn, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.



HEFYD
BBC: Mwy o faterion datganoledig
16 Meh 08 |  Newyddion
BBC: 'Angen i newyddion newid'
11 Meh 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific