|
Dydi Plaid Cymru ddim am weld newid i'r drefn ffioedd myfyrwyr
|
Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi cael ei threchu yng nghyngor cenedlaethol y blaid ddydd Sadwrn.
Ffioedd atodol i fyfyriwr oedd y pwnc dan sylw yn y cyfarfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Deellir fod cynnig wedi ei basio yn atgyfnerthu'r gwrthwynebiad i unrhyw gynllun gan Lywodraeth y Cynulliad i gyflwyno ffioedd atodol.
Mae llywodraeth clymblaid Llafur a Plaid Cymru yn ystyried cael gwared â'r drefn grantiau bresennol.
Fe wnaeth y cyngor benderfynu ail ddatgan polisi'r blaid yn erbyn ffioedd atodol.
Fe wnaethon nhw ofyn a oes modd gohirio cyflwyno'r drefn newydd tan ar ôl yr etholiad nesaf fel bod gan bob plaid gyfle i roi'r polisïau o flaen y bobl.
Anawsterau
Un o addewidion Plaid Cymru yn ystod ymgyrch etholiad cynulliad 2007 oedd peidio cyflwyno'r ffioedd atodol.
Ond fe gafodd cais i adolygu'r mater ei drechu.
Dywed John Dixon ei fod yn deall bod gan weinidogion anawsterau
|
Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, John Dixon, wrth BBC Cymru bod arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones, wedi gwneud datganiad i'r Cyngor Cenedlaethol wedyn yn dweud na fydd modd cyflwyno'r hyn gafodd ei basio.
Ychwanegodd bod Mr Jones wedi gwneud hi'n glir na all berswadio'r cabinet i gefnogi polisi Plaid Cymru.
"Dwi'n deall yn iawn fod gan y gweinidogion nifer o anawsterau...rhaid gwneud cyfaddawd o ddydd i ddydd," meddai Mr Dixon.
"Ar y mater yma, maen nhw wedi gwneud cyfaddawd ar bolisi.
"Yr hyn sydd wedi digwydd ydi bod y blaid wedi dweud nad ydan ni'n hynod o falch gyda'r cyfaddawd yna.
"Ond ma 'na gytundeb i anghytuno ar hyn o bryd."
Dywedodd nad oedd 'na ddim cynnig yn y cyfarfod i newid y polisi ond yn hytrach cynnig i gynnal gweithgor i edrych ar y polisi o'r newydd, gafodd ei wrthod ond fe fydd y blaid o bosib yn gwneud gwaith ymchwil pellach ar y pwnc.
Dileu'r ffioedd
"Dwi'n barod i gyfadde ein bod mewn sefyllfa lle mae'r blaid yn dweud un peth a'r gweinidogion mewn sefyllfa lle maen nhw'n gorfod cefnogi'r llywodraeth.
"Mae'n creu anawsterau ond dwi'n deall bod y gweinidogion mewn lle anodd iawn.
"Mae'n rhaid iddyn nhw wneud cyfaddawd ambell waith ond fydd hyn ddim yn newid polisi'r blaid."
Mae Cytundeb Cymru'n Un, y cytundeb i sefydlu'r glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru, yn dweud y bydd y ffioedd presennol yn bodoli tan 2009/10.
O dan gynlluniau ar gyfer cael eu hystyried gan Weinidog Addysg Cymru, Jane Hutt, fe fydd yn cael ei ddileu'r flwyddyn nesaf.
Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr o Gymru sy'n astudio yng Nghymru yn derbyn grant o £1,890.
Ond o dan gynlluniau'r gweinidog fe ddylai'r arian gael ei roi ar sail profion modd.
Fe fyddai peth o'r arian fydd yn cael ei arbed yn cael ei roi i brifysgolion.
|