British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 20 Chwefror 2009, 15:31 GMT
'Angen help i achub iaith'

Baner St Piran,nawddsant Cernyw
Mae tua 300 o bobl yn siarad Cernyweg yn rhugl

Mae atlas newydd Unesco, corff addysg y Cenhedloedd Unedig, wedi nodi bod angen mwy o help ar y Gymraeg fel y gall oroesi yn y ganrif hon.

Atlas digidol ieithoedd y byd mewn perygl, gafodd ei gyhoeddi'r wythnos hon, sydd wedi dweud bod yr iaith yn "anniogel".

Eto mae goroesiad yr iaith, meddai, yn "stori o lwyddiant mawr" ac mae hi'n gryfach na rhai o'i chyd-ieithoedd Celtaidd.

"Mae marwolaeth iaith yn golygu colli treftadaeth, traddodiadau ac yn enwedig y deunydd llafar, cerddi, chwedlau a diarhebion," meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Unesco, Koichiro Matsuura.

Hwn yw'r trydydd atlas i gael ei gyhoeddi ers y cyntaf yn 1996 a dywedodd fod sefyllfa'r iaith wedi gwella ers rhifyn 2001.

Mae map y rhifyn diweddara, sy'n canolbwyntio ar 2,500 o ieithoedd, wedi nodi bod 230 o ieithoedd wedi marw ers 1950.

Yn y tabl mae chwe adran, yn ddiogel (fel y Saesneg); yn anniogel; perygl sicr (Gaeleg Yr Alban a Gwyddeleg Iwerddon); perygl difrifol (Llydaweg); yn argyfyngus (Lifoneg yn Latfia) ac wedi marw (Cernyweg a Manaweg).

Ond dywedodd Jenefer Lowe, Rheolwraig Partneriaeth yr Iaith Gernyweg, fod y canlyniadau'n "gamarweiniol".

"Mae dweud bod y Gernyweg wedi marw yn awgrymu nad oes 'na siaradwyr a'i bod hi'n iaith farw."

'Optimistaidd'

"Dyw'r arolwg ddim yn ystyried ieithoedd sy'n cael eu hatgyfodi.

"Ers 20 mlynedd mae'r nifer sy'n siarad y Gernyweg wedi codi."

Cafodd y map ei lunio ar l cynadleddau oedd yn trafod sefyllfa'r gwahanol ieithoedd.

Dywedodd Christopher Moseley, arbenigwr ieithyddol o Awstralia a phrif olygydd yr atlas: "Dwi wedi bod yn optimistaidd ynglŷn 'r Gernyweg a'r Fanaweg.

"Mae 'na gryn ddiddordeb yn yr ieithoedd er bod y nifer sy'n eu siarad yn fach."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Ieithoedd Celtaidd ar gynnydd
12 Chwef 09 |  Newyddion
Llunio geiriadur Celtaidd arlein
09 Meh 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific