British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 21 Chwefror 2009, 13:38 GMT
'Dim rhodd o fwyd' mewn ysbytai

Poster rhybuddio
Mae posteri gwybodaeth yn rhybuddio am effeithiau'r haint

Mae staff mewn ysbyty sy'n dioddef sgil effeithiau haint gaeafol y Norovirus, wedi gofyn i ymwelwyr i beidio dod bwyd gyda nhw fel rhodd i'r cleifion.

Bu'n rhaid cau cyfanswm o ddeg ward a 29 o welyau yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr oherwydd yr haint.

Mae pedair ardal yng Nghastell-nedd Port Talbot ac un ward yn Ysbyty Treforys wedi cael eu heffeithio hefyd.

"Arhoswch i ffwrdd a pheidiwch dod ag anrhegion bwyd gyda chi i'r ysbyty" yw'r neges gan Ymddiriedolaeth Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn dweud y gallai unrhyw fwyd sy'n dod trwy ddrysau'r ysbyty o'r tu allan ddwysau effaith yr haint.

Cwtogi

Ychwanegodd yr Ymddiriedolaeth na ddylid croesawu gormod o ymwelwyr oherwydd y risg o drosglwyddo'r haint drwy'r wardiau.

Mae staff yn yr ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn sl ers diwedd wythnos diwethaf.

Mae nifer y cleifion yn yr ysbyty hwnnw wedi cynyddu ers dechrau'r wythnos.

Fe fu'n rhaid i'r staff gwtogi ar nifer y bobl sy'n cael eu derbyn yn gleifion yno tan bod modd dileu'r haint o'r ysbyty.

Mae Wardiau 2, 4, 6, 7, 9, 10, 17, 18, 19 ac 20 ar gau.

Ond mae 'na obaith y gallai rhai ohonyn nhw agor yn y dyddiau nesaf.

Yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, mae wardiau C, G ac E a dau wely yn yr Uned Asesu Meddygol wedi cael eu heffeithio.

Mae un gwely yn Ward V yn Ysbyty Treforys wedi cael ei effeithio, yn ogystal ag un claf yn Ysbyty Tonna.

Mae'r ysbytai wedi cynyddu nifer y staff glanhau sy'n gweithio ar y wardiau a thrwy'r adeiladau er mwyn ceisio mynd i'r afael 'r haint.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Unedau brys: Mwy o gleifion
21 Ion 09 |  Newyddion
Profion yn adnabod firws
04 Ion 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific