Eleanor Simmonds yn derbyn yr MBE gan y Frenhines
|
Mae'r nofwraig Eleanor Simmonds wedi derbyn yr MBE gan Y Frenhines, y person ieuengaf i dderbyn yr anrhydedd.
Fe wnaeth Ellie, a anwyd yn Walsall ond sy'n byw yn Abertawe erbyn hyn, ennill dwy fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn China y llynedd pan oedd hi'n 13 oed.
Daeth i'r brig yn y ras 100m a 400m dull rhydd.
Ym Mhalas Buckingham cafodd y ferch 14 oed yr anrhydedd ar yr un diwrnod a'i hyfforddwr Billy Pye.
Wedi ei champau yn y pwll fe wnaeth Ellie, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Olchfa yn Abertawe, ennill Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn y BBC.
Roedd ei rhieni a'i nain yn gwmni iddi yn ystod y seremoni.
'Sioc'
Mewn cyfweliad gyda'r BBC cyn y seremoni dywedodd ei bod yn gobeithio peidio crio gan y byddai hynny "yn embaras".
Ychwanegodd bod y teulu, sy'n naturiol "yn falch o'm llwyddiant" wedi gorfod cadw'r anrhydedd yn gyfrinach tan y cyhoeddiad ddechrau'r flwyddyn.
"Pan ddaeth y llythyr, roedd yn dipyn o sioc," meddai.
"Dwn i ddim yn siŵr iawn pam, ond dwi'n falch o gael fy anrhydeddu gan y wlad, mae'n deimlad gwych."
Ond dywedodd bod ennill dwy fedal aur yn y gemau yn well nag ymweliad â'r Palas.
"Heb gael y medalau, fyddwn i ddim yn cael yr MBE na dim arall," ychwanegodd.
Mae Ellie yn ôl yn y pwll ac yn ymarfer ac yn paratoi ar gyfer ennill mwy o fedalau yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012.
"Ond mae'n rhaid i mi ganolbwyntio ar waith ysgol nawr, dwi'n ôl i'r drefn, nôl yn ymarfer."
|