British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 18 Chwefror 2009, 08:45 GMT
Rhybudd am dn wrth goginio

Larwm Tn
Mae'r gwasanaeth yn annog pawb i osod larwm mwg yn y cartref

Mae Gwasanaeth Tn y Gogledd yn annog pobl i gadw llygad ar y bwyd maen nhw'n ei goginio, ar l tan mewn tŷ yn Nhremadog nos Fawrth.

Cafodd dynes 37 oed driniaeth am effeithiau anadlu mwg.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn annog pobl i sicrhau bod ganddyn nhw larwm mwg yn y tŷ a'u bod yn gweithio.

Cafodd diffoddwyr o Borthmadog a Phwllheli eu galw i'r tŷ ar Stryd Dulyn am 5.45pm nos Fawrth.

Roedd y ddynes wedi llwyddo i ddianc o'r tn yn y gegin gyda'i merch 16 oed.

Fe wnaeth parafeddygon roi triniaeth iddi yn y fan a'r lle.

Fe wnaeth cymydog lwyddo i fynd i mewn i'r tŷ ar l clywed sŵn y larwm mwg, a chlywed y ddynes yn galw am gymorth.

Llwyddodd y cymydog i ddiffodd y fflamau.

Peryglu bywydau

Dywedodd y gwasanaeth tn mai achos y tn oedd bod bwyd wedi cael ei adael o dan y gril.

"Mae'r digwyddiad yma yn tanlinellu bod gadael bwyd i'w goginio heb gadw golwg arno yn gallu achosi tn," meddai Jane Honey, rheolwr gwasanaethau sirol y gwasanaeth tn.

"Gall tn bychan ledu yn sydyn ac achosi difrod.

"Roedd pobl oedd yn y tŷ a'u cymydog yn ffodus i ddianc yn ddianaf."

Dywedodd bod ymdrechion y cymydog i'w ganmol ond os oes unrhyw un yn clywed larwm fe ddylen nhw gysylltu gyda'r gwasanaeth tn yn hytrach na pheryglu eu bywydau.

"Roedd y ddynes yn y tŷ wedi mynd i ymchwilio i achos y tn gan agor drws y popty, gan roi ei hun mewn perygl," ychwanegodd.

"Ein cyngor ydi i bobl gau drysau ystafelloedd a mynd allan o'r eiddo mor fuan phosib."

Mae'r gwasanaeth tn yn cynnig cynnal arolwg diogelwch am ddim mewn unrhyw gartref yn y gogledd sy'n cynnwys gosod larwm mwg.

Mae'r cynllun yn rhad ac am ddim ac fe all achub bywydau.

Am fwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael gellir cysylltu drwy'r wefan www.gwastan-gogcymru.org.uk neu drwy ffonio yn rhad ac am ddim 0800 169 1234.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Larwm mwg wedi achub bywydau
06 Hyd 08 |  Newyddion
Apl i gadw golwg ar yr henoed
02 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific