Dyfodol ansicr i rai o ysgolion Ynys Môn
|
Gallai dyfodol rhai o ysgolion cynradd Ynys Môn fod yn ansicr os yw'r cyngor yn mabwysiadu meini prawf newydd.
Mae'r cyngor, fel sawl cyngor arall yng Nghymru, yn ystyried dyfodol ysgolion.
Gallai rhai o ysgolion cynradd y sir gael eu cau oherwydd cynlluniau ad-drefnu addysg.
Cafodd cynlluniau blaenorol ar gyfer cau ysgolion eu rhoi o'r neilltu ar ôl newid gwleidyddol yn arweinyddiaeth y cyngor wedi'r etholiadau lleol ym mis Mai 2008.
 |
MEINI PRAWF
Llefydd gwag dros 25%
Llai na 50 o blant mewn ysgol ym mis Medi 2008 gyda'r rhagolygon o dan 30 erbyn 2011
Costau ar gyfer pob disgybl 2008/9 dros £4,000
|
Ar hyn o bryd mae 'na 52 o ysgolion cynradd ar yr ynys ond oherwydd adolygiad fe allai dyfodol hyd at 15 o ysgolion fod yn yn ansicr.
Mae'r adroddiad yn rhestru ysgolion allai gael eu cau, gan gynnwys pum ysgol yng Nghaergybi, Ysgol y Parc, Ysgol Llanfawr, Ysgol Llaingoch, Ysgol Kingsland ac Ysgol y Parch Thomas Ellis.
Dydi enwau'r ysgolion eraill ddim wedi eu cyhoeddi.
Fe fydd 'na dair rhan i'r meini prawf newydd. Rhaid i ysgol ddilyn o leiaf ddau faen prawf cyn i ddyfodol ysgol gael ei ystyried.
Fe fydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Ynys Môn ddydd Llun.
|