British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 17 Chwefror 2009, 12:26 GMT
Ffatri: 74 yn colli swyddi

Ffatri Floform
Roedd Flororm yn un o brif gyflogwyr Gogledd Powys
Mae 74 o bobl wedi cael eu diswyddo wrth i ffatri roi'r gorau i fasnachu.

Aeth cwmni Floform i ddwylo'r gweinyddwyr yr wythnos diwethaf.

Dywedodd cyfarwyddwyr y cwmni ar y pryd fod llai o archebion wedi arwain at drafferthion ariannol difrifol.

Roedd y ffatri cynhyrchu cydrannau ceir yn Y Trallwng yn un o'r cyflogwyr mwyaf a hynaf yn yr ardal.

Cyhoeddodd y cwmni ddydd Iau eu bod nhw wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Dywedodd y gweinyddwyr, Zolfo Cooper, eu bod nhw wedi ceisio sicrhau dyfodol i'r cwmni.

Ond pan ddaeth hi'n glir nad oedd yn bosibl cael cefnogaeth rhai o'u prif gwmseriaid doedd dim modd dal i fasnachu.

Bydd chwech o weithwyr ar y safle am y tro er mwyn helpu'r gweinyddwyr.

Gwlad Thai

Ffatri Hoya
Mae cwmni Hoya Lens yn cynhyrchu lensys

Yn y cyfamser, gallai 46 golli eu swyddi mewn ffatri cynhyrchu lensys wrth i beth o'r gwaith gael ei symud i Wlad Thai.

Mae cwmni Hoya Lens UK wedi dweud y bydd cyfnod o ymgynghori am ddyfodol y swyddi yn y ffatri yn Wrecsam.

Yn ôl y cwmni o Japan, mae'n rhan o gynllun ail-strwythuro allai olygu ychydig o ddiswyddiadau gwirfoddol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Rheoli, Martin Batho, fod hyn yn "adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd ar lefel ryngwladol o fewn y diwydiant cynhyrchu lensys offthalmig".

Er eu bod nhw'n symud peth o'r gwaith i Wlad Thai, meddai, roedd y cwmni'n benderfynol o gael safleoedd cynhyrchu lleol.



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific