|
Adeilad gwerth £6m: 'Hwb i'r diwydiant adeiladu'
|
Gallai'r gwaith o godi adeilad gwerth £9 miliwn ddechrau yn dyfodol agos os yw cynghorwyr yn ei gymeradwyo.
Fe fydd yr adeilad yn ardal SA1 yn Abertawe yn cynnwys gwesty, bwyty a siop a gallai olygu hyd at 100 o swyddi adeiladu.
Dywedodd y datblygwyr, Waterstone Estates, y byddai'r adeilad yn "hwb i'r diwydiant adeiladu" yn y ddinas.
Mae'r cwmni wedi dweud bod arian ar gael i orffen y prosiect erbyn 2010 ac y byddai gwesty Whitbread a siop Tesco Extra yn creu 120 o swyddi ychwanegol.
Eisoes mae swyddogion cynllunio wedi argymell y cais cynllunio.
Dywedodd Waterstone: "Yn gyffredinol, mae nifer o brosiectau wedi cael eu gohirio neu eu canslo ers chwe mis.
'Lleihad'
"Mae hyn wedi arwain at leihad sylweddol yn lefel y gwaith ar gael i adeiladwyr."
Bu cynghorwyr yn ymweld â'r safle ym mis Ionawr.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud bod y gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad gwerth £3.5 miliwn yn Noc y Gogledd, Llanelli.
Ac fe fydd gwaith adeiladu'n dechrau fis nesaf ym Mharc Busnes Penllergaer ger Abertawe.
Y rhain yw'r datblygiadau cyntaf dan ofal Dragon 24, prosiect rhwng RO Developments a Llywodraeth y Cynulliad.
|