British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 14 Chwefror 2009, 11:53 GMT
Marw ar y mynydd: Rhybudd

Eryri
Rhybudd i gerddwyr bod llwybrau `saff` bellach yn beryglus
Mae 'na rybuddion wedi eu cyhoeddi i gerddwyr ar l i bedwar o bobl farw mewn wyth diwrnod yn Eryri.

Yn l plismyn a thimau achub mynydd, mae tywydd garw wedi golygu bod llwybrau sydd fel arfer yn gwbl ddiogel, yn addas i ddringwyr profiadol yn unig bellach.

Mae 'na apl i gerddwyr i fod yn ymwybodol o ragolygon y tywydd a pharatoi yn drwyadl.

Mae'r rhybudd wedi ei gyhoeddi mewn datganiad ar y cyd rhwng Heddlu'r Gogledd, Cymdeithas Achub Mynydd y Gogledd, Y Cyngor Mynydda Brydeinig a Chanolfan Plas y Brenin.

Mae'n rhybuddio bod 'na amryw o ddigwyddiadau trasig wedi bod yn y mynyddoedd dros y dyddiau diwethaf, rhai wedi arwain at farwolaethau, gyda dringwyr eraill wedi cael dihangfa lwcus yn Eryri ac yn ardal y Llynnoedd.

Cyrsiau

Mae 'na wybodaeth a chyngor ar gael yn y Ganolfan Fynydd Genedlaethol, ynghyd chyrsiau rhad ac am ddim, ar sut i ddringo mynyddoedd yn ddiogel.

Mae cwymp eira wedi troi ardaloedd fel Clogwyn Goch yn hynod o serth a llithrig.

Yn l y Dirprwy Arolygydd Gerwyn Lloyd o Heddlu'r Gogledd, "Mae angen i unrhyw gerddwr sy'n defnyddio'r llinell reilffordd i ddarganfod eu safle ar y mynydd, adnabod y peryglon, a sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau, y wybodaeth, yr arbenigedd, a'r cyfarpar i sicrhau eu bod yn gallu dod lawr o'r mynydd yn ddiogel."

Yn l y datganiad fe ddylai unrhywun sy'n mynydda'r adeg yma o'r flwyddyn gario cyfarpar sy'n cynnwys bwyell ia, dillad cynnes, map a chwmpawd, pinsiwrn dringo, a bwyd.

Mae'n bwysig hefyd i ddweud wrth rywun am eu cynlluniau a bod yn ymwybodol o ragolygon y tywydd.

Yr wythnos ddiwethaf bu farw Christopher McCallion, 29 oed o Fryste, a James McCallion o Weston-Super-Mare, ar l syrthio tua 1,000 o droedfeddi mewn tywydd rhewllyd.

Hefyd bu farw Brian William Middleton, 70 oed o Halifax, Sir Gorllewin Efrog a Gwyn Norrell, 27 o Amwythig, mewn damweiniau gwahanol dros y dyddiau diwethaf.



HEFYD
Pedwaredd farwolaeth yn Eryri
12 Chwef 09 |  Newyddion
Achub dau arall yn Eryri
11 Chwef 09 |  Newyddion
Apl ar l achub dringwyr
11 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific