British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 13 Chwefror 2009, 08:01 GMT
Sinema'r Scala: Yr oedi ar ben

Sinema'r Scala, Prestatyn
Cafodd sinema'r Scala ei agor ym 1913

Bydd Canolfan Gelfyddydau a Sinema'r Scala ym Mhrestatyn yn Sir Ddinbych yn agor nos Wener ar iddi orfod cau yn 2000 oherwydd pryder am gyflwr yr adeilad.

Mae £3.5 miliwn wedi ei wario ar sinema ddigidol gynta Cymru.

Mae nifer wedi bod ynghlwm gydag ariannu'r ganolfan gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Tre Prestatyn, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Celfyddydau Cymru, y Sefydliad Chwaraeon a'r Celfyddydau a'r Cyngor Ffilm Brydeinig.

Yn dilyn ymgyrch i achub y sinema, fe ddechreuodd y gwaith i greu canolfan gelfyddydau newydd yn 2007.

Bellach mae na ddau awditoriwm yno gyda lle i 150 o bobl yr un, gyda systemau taflunio digidol diffiniad uchel, a lle ar gyfer perfformiadau byw.

Yn ogystal mae'r ganolfan yn cynnwys bar, ystafelloedd i'r gymuned leol i gynnal cyfarfodydd, a lle i gynnig hyfforddiant.

Mae'r rheolwr cyffredinol Chris Bond yn "edrych ymlaen i agor y drysau a dangos y lle am y tro cynta."

Ychwanegodd "Dwi'n gwbod unwaith y bydd y cyhoedd yn cael cyfle i weld y lle ar ei newydd wedd y byddan nhw mor gynhyrfus a'r rhai sydd wedi bod ynghlwm wrth y ganolfan i'w gweld yn agor."

Y ffilm Bolt, sydd wedi ei henwebu am Oscar, fydd yn cael ei dangos gynta nos Wener, gyda Slumdog Millionaire a Valkyrie hefyd yn cael eu dangos yn ystod y dyddiau nesa.

Hen Hanes

Cafodd y Scala ei adeiladu ym 1898 yn wreiddiol fel neuadd y dref ac yna cafodd ei addasu'n sinema ym 1913 gan James Roberts.

Roedd sinema'r Scala yn dangos ffilmiau heb sain cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ond bu'n rhaid ei chau yn 2000 am fod yr adeilad mewn cyflwr peryglus.

Un o'r ffilmiau cyntaf i gael ei dangos yn y sinema oedd 'All Quiet on the Western Front'.



HEFYD
Cynlluniau newydd i hen sinema
27 Hyd 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific