British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 13 Chwefror 2009, 08:03 GMT
Dubai yn denu'r doctor

David Tennant
David Tennant yw'r Doctor yn y gyfres newydd
Mae tîm cynhyrchu ac actorion y gyfres Doctor Who wedi teithio i'r Gwlff Arabaidd i ffilmio ar gyfer sioe arbennig y Pasg.

Fe ddechreuwyd ffilmio Planet Of The Dead sy'n cynnwys David Tennant fel y Doctor fis diwethaf.

Mae Michele Ryan, seren Bionic Woman a Merlin yn chwarae rhan cymeriad rhyfeddol y Foneddiges Christina de Souza, ac yn ymuno gyda David Tennant ar drip bws peryglus.

Mae'r comediwr Lee Evans hefyd â rhan yn y sioe.

Yn ôl y cyfarwyddwr, Tracie Simpson: " Ry' ni bron byth yn mynd â'r Doctor dramor, er i ni fod yn Rhufain yn ffilmio "The Fires of Pompeii" ar gyfer y bedwaredd gyfres.

"Mae'r lleoliadau yn Dubai yn cydweddu'n dda gyda gweledigaeth yr awdur Russell T Davies o'r bennod, ac ry ni'n disgwyl ffilmio golygfeydd anghredadwy tra ein bod ni yma."

Planet Of The Dead, fydd y gyntaf mewn cyfres o bedair rhaglen arbennig fydd yn cael eu darlledu eleni.

Bydd y bennod yn cael ei darlledu ar BBC1 yn y gwanwyn.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Tardis y Doctor ar agor i enillwyr
08 Tach 08 |  Newyddion
Bafta: Doctor Who ar y brig
28 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific