Protest y tu allan i Ysgol Gynradd Lansdowne y llynedd
|
Daeth cais i'r Comisiwn Cydraddoleb a Hawliau Dynol ymyrryd yn y ffrae am newidiadau posib i ysgolion yng Nghaerdydd.
Cafodd un cynllun i gau ysgol oedd â chydbwysedd o ddisgyblion gwyn ac ethnig ei ddisgrifio fel 'polareiddio' gan y prif weinidog Rhodri Morgan.
Fe wnaeth un o gynghorwyr Caerdydd ddisgrifio'r dewis o gau Ysgol Gynradd Lansdowne yn Nhreganna fel 'puro ethnig' ond mae bellach wedi ymddiheuro am ei sylwadau.
Dywedodd Mr Morgan - yr aelod cynulliad lleol - fod y disgrifiad yn anghywir, ond fod 'polareiddio' yn gywir.
Mae'r cynllun i ad-drefnu ysgolion yng Nghaerdydd yn digwydd er mwyn ceisio ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd.
Nawr mae'r mater wedi cael ei gyfeirio ar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Y Cynghorydd Llafur Ramesh Patel ddefnyddiodd y term 'puro ethnig' cyn ymddiheuro am hynny.
Gofynnodd aelod Plaid Cymru Mohammed Ashgar i'r Prif Weinidog feirniadu`r dyfyniad, ac ymateb Mr Morgan oedd:
"Mae'n un o'r ymadroddion anffodus yna...dwi'n meddwl mai 'polareiddio' oedd e wedi fwriadu'i ddweud.
"Dwi'n meddwl fod 'polareiddio' yn gywir, ond mae 'puro ethnig' yn ymadrodd cwbwl annerbyniol."
Nawr mae arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd wedi cyfeirio'r mater at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Dywedodd y cynghorydd Neil McEvoy: "Dwi wedi fy synnu gan y sylwadau...sut all y Prif Weinidog geisio egluro ymadrodd ffiaidd fel 'puro ethnig'."
Mae cyfnod ymgynghori ynglÿn â'r cynllun ad-drefnu ysgolion yn digwydd ar hyn o bryd.
Un dewis fyddai cau Ysgol Gynradd Lansdowne gan symud Ysgol Gymraeg Treganna i'r safle - byddai honno wedyn yn derbyn dau ddosbarth o blant bob blwyddyn.
Y dewis arall fyddai symud Ysgol Lansdowne gyda'r feithrinfa i Ysgol Uwchradd Fitzalan a symud Ysgol Treganna i safle Ysgol Lansdowne.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar Chwefror 27.
|