British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Chwefror 2009, 09:58 GMT
Buddsoddi mewn sgiliau yw'r ateb

Myfyrwyr yn graddio
Addysg uwch yn hanfodol

Mae adroddiad gan aelodau seneddol ar effaith y marchnadoedd byd-eang ar Gymru yn dweud fod angen gwneud mwy i wella sgiliau.

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn canolbwyntio ar yr hyn mae nhw'n ddisgrifio fel bwlch sgiliau yn enwedig yn y gwyddorau.

Yn yr adroddiad, mae nhw'n mynd ymlaen i ddweud y dylai Llywodraethau'r Cynulliad a San Steffan weithio'n galetach gyda'r sector addysg uwch yn y maes.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Dr Hywel Francis, dylai gwella sgiliau fod yn flaenoriaeth er mwyn creu tyfiant a ffyniant i Gymru.

"Mae'r hinsawdd economaidd wedi newid yn sylweddol ers i'r pwyllgor ddechrau'r ymchwiliad yma i fater globaleiddio dros ddwy flynedd yn ôl," medd aelod seneddol Aberafan.

"Rydym yn credu'n gryf yn ôl y dystiolaeth a glywsom, mai seiliau sgiliau cadarn yw'r ateb i gynnal lefelau swyddi yng Nghymru.

"Hyfforddi ac ail-hyfforddi sgiliau i'r gweithlu ddylai fod yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau tyfiant tymor hir i'r economi, a llewyrch i bobl Cymru."

Swyddi Corus

Dyma ail adroddiad y pwyllgor ers iddo ddechrau ymchwilio i effaith y marchnadoedd byd-eang ar economi Cymru ddwy flynedd yn ôl.

...angen adolygiad radical o ariannu hyfforddi sgiliau
Cheryl Gillan Llefarydd Y Ceidwadwyr ar Gymru

Mae'n nodi mai un engraifft diweddar oedd cyhoeddiad cwmni dur Corus i gael gwared ar 1,100 o swyddi yng Nghymru oherwydd cwymp yn y galw byd-eang am eu cynnyrch.

Nododd y pwyllgor aml-bleidiol fod amaethyddiaeth a'r diwydiant bwyd yn gymorth i Gymru ddatblygu enw da drwy'r byd.

Dadl yr adroddiad yw y gall cwmniau o Gymru adeiladu ar hynny i gynnig "nwyddau gwych a gwasanaethau sydd ddim i'w cael dramor."

Cefnogwyd argymellion y pwyllgor gan lefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru, Cheryl Gillan:

"Mae canlyniadau'r adroddiad yn atsain yr hyn yr ydym wedi bod yn dadlau ers tro - sef fod angen i Lywodraethau'r Cynulliad a San Steffan fuddsoddi mewn sgiliau fel conglfaen adfywio economaidd.

"Rydym hefyd angen adolygiad radical o ariannu hyfforddi sgiliau gan y wladwriaeth er mwyn sicrhau fod mwy o arian yn cyrraedd y lle sydd ei angen fwyaf."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Addysg: Gwario £495 yn llai y pen
28 Ion 09 |  Newyddion
Dirwasgiad: 'Her i Gymru'
23 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific