British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 12 Chwefror 2009, 08:36 GMT
47m i uwchraddio carchar

Carchar y Parc
Carchar Y Parc

Bydd 47 miliwn yn cael ei wario i uwchraddio Carchar y Parc ym Mhenybont - unig garchar preifat Cymru.

Fe fydd cwmni adeiladu Gallifrod Try yn creu bloc newydd sbon yn ogystal ag ymestyn a newid adeiladau presennol ar y safle.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Mai, gan ei gwbwlhau erbyn Chwefror 2011.

Group 4 Securicor yw perchnogion y carchar categori B, ac mae'r cynllun wedi'i baratoi i gydfynd safonau amgylcheddol uchaf y Sefydliad Ymchwil Adeiladau.

Dywedodd Greg Fitzgerald, Prif Weithredwr cwmni Galliford Try:

"Rydym wrth ein boddau i ennill y cytundeb yma, sy'n adlewyrchu record Galliford Try mewn codi adeiladau carchar, ac yn ychwanegiad i waith y cwmni yn y sector adeiladau cyhoeddus."

Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific