Dywedodd y cwmni bod ganddynt 20 mlynedd o brofiad o symud gwastraff o safle trin cywion ieir.
|
Mae rhai trigolion yn anhapus am gynlluniau i gynhyrchu trydan o wastraff cywion ieir mewn ffatri ar Ynys Môn.
Byddai'r safle treulio anaerobig yn cynhyrchu 17,000 megawat o drydan yn flynyddol ac wedi ei leoli ym Mrynteg ger Benllech.
Dywedodd y cynghorydd Barrie Durkin o Gyngor Ynys Môn ei fod yn poeni am yr effaith ar warchodfa natur gerllaw.
Roedd tua 100 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus nos Fercher i drafod y pwnc.
Dywedodd y cwmni Par Contractors bod yna dipyn o gamarwain wedi digwydd a'u bod yn croesawu'r cyfarfod cyhoeddus.
"Fy mhrif bryder yw bod y safle reit wrth ymyl Gors goch - sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig - ac fe allai gael effaith ar y gors," meddai'r Cynghorydd Durkin.
"Pe bai unrhyw beth yn mynd o'i le hyd ymyl y gors fe allai'r canlyniadau fod yn drychinebus."
Ychwanegodd y Cynghorydd Durkin ei fod hefyd yn pryderu am yr effaith ar y diwydiant twristiaeth yn yr ardal, hyd yn oed os oedd hynny ar gam ym meddyliau pobl.
Dywedodd Tracy Purslow o Frynteg ei bod yn "bryderus iawn iawn" am y cynlluniau.
Roedd hi'n gwrthwynebu am nifer o resymau gan gynnwys bod yr afon y byddai'r gwastraff yn cael ei arllwys iddi yn arwain i'r traeth ym Menllech.
"Rydym yn bryderus iawn dros yr ardal gan ei bod yn ardal wledig, dwristaidd.
"Mae'n hynod o drist. Mae'n beth mawr, ac yn y lle mwyaf anaddas," ychwanegodd.
Trwydded
Dywedodd Dewi Roberts o Par Contractors bod yna dipyn o gamargraff am y sefyllfa.
Roedd ei gwmni yn cyflogi chwech o bobl, ac wedi bod yn symud gwastraff o'r safle trin cywion ieir yn Llangefni am dros 20 mlynedd.
"Rydym yn gwneud y gwaith drwy drwydded gan Asiantaeth yr Amgylchedd," meddai.
"Rydym yn symud y 'llaca', sef y gwastraff a gynhyrchir pan fo'r safle yn cael ei glanhau, nid perfeddion cywion ieir," ychwanegodd.
Ar hyn o bryd mae gwaed yn cael ei gludo i'w losgi yn Lloegr, ychwanegodd, ond byddai'r treuliwr anerobig newydd yn galluogi ei gwmni i ddefnyddio gwaed a'r 'llaca' i greu trydan.
'Proses naturiol'
Defnyddir y 'llaca' ar hyn o bryd i gyfoethogi tiroedd amaethyddol.
Byddai cynlluniau ar gyfer y safle trydanol yn cynnwys tanciau plastig mawr wedi eu cloddio dan y ddaear i ddal y gwastraff, meddai Mr Roberts.
"Mae'n broses cwbl naturiol, ac erbyn iddo ddod allan o'r ochr arall mae'n gwbl lan ac yn gallu cael ei ollwng i'r afon.
"Mae'r afon a ddefnyddiwn wedi dod o Gors Goch, ac mae'r cyfan a wnawn yn cael ei reoli gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
"Nid criw o gowbois yn taflu rhywbeth i'r ddaear ydym ni," meddai.
"Mae angen i bobl glywed dwy ochr y stori," ychwanegodd.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn bod cais cynllunio yn amlinellu safle treulio anaerobig wedi cael ei dderbyn.
|