British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 10 Chwefror 2009, 13:48 GMT
Cymru a Darwin

Charles Darwin
Cofnododd Charles Darwin "pa mor ddiolchgar ydw i am y daith fer yna i Gymru."

Wrth nodi dau gan mlwyddiant geni Charles Darwin, mae cyswllt pwysig gyda gogledd Cymru wedi ei amlygu.

Treuliodd Darwin wythnos yn Eryri ar daith ddaearegol fu'n gymorth i baratoi y gwyddonydd Fictoraidd ar gyfer ei daith forwrol enwog ar y Beagle.

Defnyddiodd Darwin, osododd y seiliau ar gyfer damcaniaeth esblygiad, wybodaeth enillodd yng Nghymru yn ystod ei daith forwrol bum mlynedd.

Mae arddangosfa sy'n esbonio'r cyswllt Cymreig i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

'Dylanwadol'

Dywedodd Tom Sharpe, uwch guradur daeareg yr amgueddfa yng Nghaerdydd, bod yr ymweliad ag Eryri yn "ddylanwadol" yn ei syniadaeth ar ddaeareg, gwyddor oedd y pryd hynny yn yr 1830au ond newydd ymddangos.

Gadawodd Darwin ei gartref yn Yr Amwythig yn ddyn ifanc gan deithio i ogledd Cymru fis Awst, 1831.

Cwm Idwal
Dychwelodd Darwin i Gwm Idwal yn 1842 pan sylweddolodd arwyddoc‚d rhewlifiant.

Gadawodd am Langollen gyda'r Parchedig Adam Sedgewick, un o brif ddaearegwyr y cyfnod, gan deithio i Ruthun, Conwy, Bangor a Bethesda.

Yn ystod ei gyfnod yng ngogledd Cymru, cerddodd Darwin bellterau mawr yn dilyn llwybr cyfochrog i lwybr Sedgwick, gan nodi'r ddaeareg wrth iddo grwydro'r wlad. Wrth gyfarfod yn y nosweithiau bu'r ddau yn cymharu nodiadau ar yr hyn a welsant.

Dywedodd Mr Sharpe i'r ddau deithio llawer a bu hyn o help yn ystod y daith ar y Beagle pan fu raid i Darwin deithio'n gyflym o le i le yn Ne America wrth gyflawni ei ymchwil yno.

Bu modd iddo wneud cyffelybiaethau megis cymharu ffosilau a daeareg ddarganfuwyd yn y Falklands gyda'r ddaeareg daeth o hyd iddo yng ngogledd Cymru.

Cyfeiriodd Darwin ei hun yn ei ddyddiaduron at y daith i Gymru a phwysigrwydd y daith iddo.

Ffosilau o gwrel

Mewn un darn o'r dyddiadur tra ar ei daith fawr ysgrifennodd Darwin "dywedwch wrtho [Sedgwick] pa mor ddiolchgar ydw i am y daith fer yna i Gymru."

Mewn darn arall, tra yn Uruguay, ysgrifennodd: "Ar y copa roedd nifer o bentyrrau o gerrig, oedd yn amlwg wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd. Roeddent yn debyg, er ar raddfa lai, i'r pentyrrau sydd mor amlwg ym mynyddoedd Cymru."

Wedi wythnos gyda'i gilydd ar daith 1831 fe wahanodd Darwin a Sedgwick.

Arddangosfa Darwin yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Bydd yr arddangosfa yng Nghaerdydd ar agor am flwyddyn.

Parhaodd Darwin i Gwm Idwal, cwm uchel ym mynyddoedd Eryri, lle bu'n adnabod creigiau igneaidd a darganfod ffosilau o gwrel. Aeth yn ei flaen wedyn i Gapel Curig gan astudio creigiau Moel Siabod.

Cyn dychwelyd adre, treuliodd Darwin ddeuddydd ychwanegol yn cerdded 65 cilomedr i'r Bermo i dreulio rhai dyddiau gyda ffrindiau o'r brifysgol. Bu'n crwydro ardal wledig Ffestiniog a mynyddoedd y Rhinog.

Dywedodd Peter Howlett, curadur yr arddangosfa, i Darwin ddychwelyd unwaith eto i Gwm Idwal yn 1842, y tro diwethaf iddo wneud unrhyw waith maes o ddifri oherwydd afiechyd.

Un flwyddyn ar ddeg ynghynt, nid oedd wedi llwyddo i sylwi ar yr arwyddion amlwg o rewlifiant yn nyffryn Eryri, oherwydd yr adeg yna nid oedd y theorÔau o oes yr i‚ wedi ymddangos.



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific