British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Chwefror 2009, 17:37 GMT
300 o ysgolion ynghau

Traffordd M4 dros Ail Bont Hafren
Traffordd yr M4 dros Ail Bont Hafren yn wag ar ˘l cau

Mae'r tywydd wedi achosi trafferth mewn rhannau o Gymru wrth i 300 o ysgolion gau ddydd Gwener.

Fe fu'n rhaid cau'r ddwy bont dros Afon Hafren am gyfnod wedi i dalpiau o rew gwympo a thorri ffenestri blaen chwe char.

Cafodd traffig ar yr M4 i gyfeiriad y dwyrain ei ddargyfeirio ar Gyffordd 24 i'r A40/M50 a chafodd traffig i gyfeiriad y gorllewin ei ddargyfeirio ar hyd yr M5, M50, A40 a'r A449.

Roedd oedi o ddwy neu dair awr ym Maes Awyr Caerdydd ond roedd swyddogion yn annog teithwyr i gyrraedd yn ˘l eu harfer.

Cafodd nifer o awyrennau eu cyfeirio i Gaerdydd gan nad oedden nhw'n gallu glanio ym Maes Awyr Bryste oherwydd yr eira.

Caewyd yr A470 i'r ddau gyfeiriad rhwng Aberhonddu a Merthyr Tudful oherwydd yr eira am gyfnod ac roedd yr M4 yn beryglus iawn rhwng Cyffordd 29 (A48) a Chyffordd 22.

40 milltir yr awr

Yn y mannau hyn roedd cerbydau'n gorfod gyrru ar gyflymder o 40 m.y.a.

Roedd yr A4067 ym Mhontsenni, Powys, wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A40 a'r B4599.

Yn y Rhondda roedd ffyrdd y Bwlch, Maerdy a Rhigos dros y mynyddoedd i gyd wedi'u cau, a dwy fodfedd o eira wedi cwympo yn AberdÔr ac Aberhonddu fore Gwener.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Rhew yn syrthio ar Bont Hafren
06 Chwef 09 |  Newyddion
Ysgolion sydd ar gau ddydd Gwener
06 Chwef 09 |  Newyddion
Oriel arbennig: Effaith y tywydd
05 Chwef 09 |  Newyddion
Lluniau: Eira yng Nghymru
03 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific