British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Chwefror 2009, 12:41 GMT
Iaith: 'Corddi'r dyfroedd'

Stryd Fawr Llandeilo
Mae Rhys Williams yn gobeithio cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Mae ymgeisydd Seneddol y Blaid Lafur wedi amddiffyn ei ymosodiad ar rai siaradwyr Cymraeg.

Yn l Rhys Williams, sy'n sefyll yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, mae rhai yn defnyddio'r Gymraeg fel arf i wneud i eraill deimlo "fel dinasyddion eilradd".

Dywedodd ei fod yn amddiffyn ei sylwadau yn y cylchgrawn Barn ond mae cadeirydd Plaid Cymru, John Dixon, wedi dweud ei fod yn synnu at y sylwadau.

Yn ei erthygl fe feirniadodd rai siaradwyr Cymraeg oedd yn beio eraill am fod yr iaith yn colli tir ond ddim yn ei throsglwyddo i'w plant.

Yn yr erthygl, mae'n ysgrifennu: "Dywedodd Jonathan Swift ei fod yn casu'r ddynolryw ond yn caru Tom, Dick a Harry. Yn f'achos i, fe fyddwn yn dweud fy mod yn casu'r Cymry Cymraeg ond yn caru Heledd, Gethin a Glesni.

"Yn wir, mewn llawer cymuned Gymraeg mae ethos y Seiri Rhyddion yn rhemp trwy'r gymdeithas drwyddi draw.

"Y caswir yw bod y Cymry hyn, at ei gilydd, yn defnyddio'r iaith Gymraeg fel arf - naill ai i gau pobl allan neu er mwyn eu gwneud nhw'n ddinasyddion eilradd. "

'Synnu'

Dywedodd cadeirydd Plaid Cymru, John Dixon, ei fod yn synnu at beth ddywedodd Mr Williams ac nad oedd yn adnabod y darlun yr oedd yn ei greu.

Mae'r blaid Lafur yn pwysleisio mai barn bersonol oedd Rhys Williams yn ei mynegi.

Dywedodd Bwrdd yr Iaith na fyddan nhw'n ymateb gan mai barn bersonol ydoedd.

Y llynedd roedd ymgyrch gan y Blaid Lafur i apelio at siaradwyr Cymraeg ar l canlyniadau gwael yn etholiadau'r Cynulliad.

Ar l Etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2007 fe feirniadwyd perfformiad Llafur mewn dogfen fewnol gan y blaid.

Roedd y ddogfen yn dweud bod angen i Lafur addasu ei delwedd a'i negeseuon er mwyn ymateb i newidiadau cymdeithasol yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad, a luniwyd gan aelodau gweithgor y blaid, yn bryderus bod y blaid yn colli tir mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith ac yng nghefn gwlad.

Actor amatur

Yn gyn-athro, mae Rhys Williams yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i Undeb Cenedlaethol yr Athrawon yng Nghymru.

Mae'n actor amatur ac wedi cyhoeddi cerddi a straeon byrion yn Gymraeg a Saesneg, ac mae i'w glywed ar Radio Wales a Radio Cymru o bryd i'w gilydd.

Yn 1996 enillodd wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo am ysgrifennu sgetsys ar gyfer actorion dan 25 oed.



HEFYD
Iaith: Cais am fwy o bwerau
02 Chwef 09 |  Newyddion
Annibyniaeth: Iaith yn ffactor
28 Ion 09 |  Newyddion
Y Fro Gymraeg: 'Tanseilio'
22 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific