British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Chwefror 2009, 06:42 GMT
Ysgol ddim yn ddiogel i bobl hoyw

Bullying (generic picture)
Mwyafrif yn credu nad yw ysgolion yn ddiogel i hoywon

Mae llawer o ddisgyblion ysgolion Cymru yn teimlo nad yw hi'n ddiogel i fod yn agored yn hoyw yno.

Cynhaliwyd arolwg yn ystod gweithdy o'r enw 'Safe Space' sy'n ceisio taclo bwlio homoffobig, ac fe gafodd 600 o ddisgyblion eu holi.

Roedd 79% o rheini yn credu nad oedd eu hysgo yn ddiogel i lesbiaid, hoywon, pobol ddeurywiol neu dransexual i fod yn agored am eu rhywioldeb.

Mae'r arolwg yn cydfynd ag elusen newydd - Canolfan Rhagoriaeth LBGT Cymru - fydd yn cael ei lansio yn y senedd gan ddirprwy weinidog adfywio Cymru, Leighton Andrews.

Mae'r arolwg hefyd yn dangos fod 66% o ddisgyblion yn credu nad yw hi'n ddiogel i ddisgyblion heterorywiol ddangos cefnogaeth i gyfeillion hoyw, a 56% yn credu nad oedd hi'n ddiogel i athrawon a staff fod yn agored hoyw.

Cymru'n waeth

Plant mewn ysgol

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Canolfan Rhagoriaeth LBGT Cymru, Federico Podeschi:

"Byddai'r rhan fwya o'r rhai gafodd eu holi yn heterorywiol, ac mae hynny'n cryfhau'r ddadl fod angen taclo bwlio homoffobig mewn ysgolion.

"Mae'r ystadegau'n dangos fod y sefyllfa yn waeth yng Nghymru o'u cymharu ag adroddiad ysgolon Stonewall, ac yn dangos yr angen i newid diwylliant ar lawr gwlad ymysg pobol ifanc."

Roedd arweinydd cyngor Caerydd, Rodney Berman, yn mynnu y dylid atal bwlio o unryw fath mewn ysgolion. Ychwanegodd:

"Yn achos bwlio homoffobig, mae llawer angen ei wneud i sicrhau fod pobol yn ymwybodol o'r pynciau, ac yn gallu deall beth y mae rhai o'n pobol ifanc ni'n gorfod delio nhw.

"Ar ei waethaf," meddai, "mae bwlio homoffobig yn cyfrannu at hunanladdiad ymysg rhai yn eu harddegau, a dydi o ddim felly yn fater y gallwn ni anwybyddu.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Heddlu'n cefnogi staff hoyw
30 Ion 09 |  Newyddion
Troseddau: Cyngor i ddioddefwyr
22 Awst 08 |  Newyddion
Mwy o droseddu yn erbyn hoywon
25 Meh 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific