British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Chwefror 2009, 16:22 GMT
Pwerdy newydd: 2,000 o swyddi?

Artist impression of Pembroke station
Y pwerdy: Argraff artist

Mae Gweinidog Ynni Llywodraeth San Steffan wedi cymeradwyo pwerdy newydd i Gymru allai greu hyd at 2,000 o swyddi adeiladu.

Bydd y pwerdy nwy yn cael ei godi ar safle hen bwerdy Penfro, yr ochr draw i orsaf LNG yn Aberdaugleddau.

Bydd gorsaf newydd cwmni RWE Npower yn cynhyrchu 2000 megawat o ynni, gan ddarparu digon o drydan i 3 miliwn o gartrefi.

Ond mae mudiad Cyfeillion Y Ddaear wedi gwrthwynebu a mynnu y byddai'r gwres yn gollwng o'r orsaf yn rhy wastraffus.

'Cyfleon'

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan: "Rydym yn croesawu'r cyfleon a ddaw i'r rhai sydd gyda'r sgiliau cywir yn Sir Benfro a gweddill Cymru.

"Pan fydd (yr orsaf) yn weithredol, bydd yn dod ag amrywiaeth i ffynnonellau trydan Cymru."

Yn l arweinydd Cyngor Sir Benfro, John Davies, hwn oedd y newyddion gorau i'r sir.

"Bydd y pwerdy newydd yn allweddol i'r economi nid yn unig yn Sir Benfror ond yng ngweddill De Cymru a Phrydain.

"Mae'r cyngor sir wedi bod yn gweithio gyda RWE Npower ers tro ar y cynllun yma, a dyma'r cyhoeddiad yr ydym wedi aros amdano."

Cytundebau lleol

Eisoes mae Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Nick Ainger, wedi cwrdd rheolwyr RWE Npower yn Senedd Llundain ac wedi galw am roi cytundebau adeiladu i gwmnau lleol.

Fe arwyddodd y cwmni gytundeb chontractwyr ym mis Awst 2007 i godi'r pwerdy ar hen safle gorsaf bwer Penfro a gaeodd ym 1996.

Fe fydd angen tair blynedd i'w godi ac fe fydd yn cyflogi 100 o weithwyr.

Y pwerdy fyddai'r un mwyaf ym Mhrydain ers codi gorsaf Drax yn Sir Gogledd Efrog ym 1986.

Difrodi

Mae Cyfarwyddwr Cyfeillion Y Ddaear Cymru, Gordon James, wedi dweud y byddai'r gwres o'r orsaf newydd yn difrodi'r ecosystem ac yn effeithio ar bysgod, morloi a dyfrgwn yn yr ardal.

"Byddai'r gwres sy'n cael ei ollwng o'r pwerdy yn cyfateb i tua hanner y trydan y mae Cymru'n ei ddefnyddio bob blwyddyn."

Dywedodd fod y llywodraeth wedi colli cyfle i ddatblygu technoleg fwy gwyrdd fyddai wedi dod a swyddi i'r ardal ond heb niweidio ecoleg pwysig yr ardal.

Dywedodd mai'r ffordd ymlaen fyddai harneisio'r gwres gwastraff o'r safle LNG ac o burfeydd olew Sir Benfro a'i ddefnyddio i greu ynni.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
400 miliwn: Creu ynni o wastraff
29 Ion 09 |  Newyddion
Atomfeydd: Meini prawf
27 Ion 09 |  Newyddion
Morglawdd: Gam yn nes?
26 Ion 09 |  Newyddion
Fydd deddf newydd yn drobwynt?
24 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific