British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Chwefror 2009, 11:43 GMT
Bygythiad i ganolfan gelfyddydau

Canolfan Gelfyddydau Wyeside
Mae Canolfan Gelfyddydau Wyeside yn croesawu hyd at 40,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Mae canolfan gelfyddydau sy'n gartref i un o sinemâu hyna'r DU mewn perygl o gau os na all ddod o hyd i £78,000 o gyllid, yn ôl cyfarwyddwr y ganolfan.

Mae Canolfan Gelfyddydau Wyeside yn Llanfair-ym-Muallt hefyd yn gartref i theatr ac oriel, ond mae wedi bod o dan fygythiad am flynyddoedd.

Croesawodd y cyfarwyddwr Guy Roderick gefnogaeth ariannol blynyddol gan gyngor Powys a chyngor celfyddydau Cymru, ond dywedodd nad oedd yn ddigon.

Mae cyngor y celfyddydau a chyngor Powys wedi cael eu gofyn i wneud sylw.

Disgrifiodd Mr Roderick y sinema sydd yno ers 98 o flynyddoedd, un o ddim ond pump sydd ym Mhowys, a'r theatr a'r oriel, agorodd ym 1978, fel conglfaen diwylliannol.

Mae problemau cyllid Canolfan Gelfyddydau Wyeside wedi bod yn peri pryder am 10 mlynedd.

Rydym yn croesawu'r gefnogaeth gan gyngor Powys a chyngor y celfyddydau, ond mae angen i ni ddod o hyd i gyllid ychwanegol
Guy Roderick, Canolfan Gelfyddydau Wyeside

Dywedodd Mr Roderick: "Rydym yn disgwyl cadarnhad gan gyngor y celfyddydau ynghylch cyllid y flwyddyn ariannol nesaf. Rydym yn croesawu'r gefnogaeth gan gyngor Powys a chyngor y celfyddydau, ond mae angen i ni ddod o hyd i gyllid ychwanegol.

"Mae ein bwrdd rheoli wedi datgan os na fydd y cyllid yn ddigonol yna fydd dim dewis ond cau.

"Byddai hyn yn cael effaith economaidd enfawr ar y gymuned. Ni fyddai gan bobl fodd hwylus o brofi diwylliant a'r celfyddydau, yn ogystal 'dyw trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn foddhaol iawn yn yr ardal yma."

Mae'r ganolfan gelfyddydau yn derbyn £37,000 yn flynyddol gan gyngor Powys a £65,000 gan gyngor y celfyddydau, ond mae hynny'n gadael diffyg o £78,000.

Mae bwrdd rheoli'r ganolfan wedi addo codi £28,000, ond dywedodd ei bod yn afreal meddwl y gallai ddod o hyd i £50,000 ychwanegol.

Cafodd cynnig mewn cyfarfod o gyngor Powys yr wythnos ddiwethaf i ddarparu £60,000 ychwanegol i Wyeside ei wrthod.

Dywedodd Aelod Cynulliad Brycheiniog a Sir Faesyfed Kirsty Williams bod y ganolfan gelfyddydau yn "gyfleuster amhrisiadwy" yn ne Powys.

Ychwanegodd: "Rwy'n deall y bydd y cyngor yn cynnal cyfarfod rheoli brys wythnos nesaf i drafod y cyllid ychwanegol ar gyfer Wyeside.

"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y bwrdd yn penderfynu ceisio dod o hyd i'r £60,000 ychwanegol i arbed Wyeside."

Dywedodd Mr Roderick pe bai sinema Llanfair-ym-Muallt yn cau yna'r sinema agosaf fyddai un Aberhonddu, tua 21 milltir i ffwrdd.

Mae Wyeside yn croesawu hyd at 40,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific